Neidio i'r prif gynnwy

Archwiliad Clinigol

Mae'r archwiliad clinigol wedi'i gynllunio i wella canlyniadau mewn ystod eang o gyflyrau meddygol, llawfeddygol ac iechyd meddwl. Diben yr archwiliad yw:

  • cynnwys pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn gwerthusiad systematig o'u hymarfer clinigol yn erbyn safonau a chefnogi ac annog gwelliant yn ansawdd y driniaeth a'r gofal.

  • rhoi gwybodaeth i gleifion a'r cyhoedd ar ansawdd gwasanaethau gofal iechyd penodol sy'n cael eu darparu yn lleol ac yn genedlaethol.

  • Mae archwiliad clinigol yn hanfodol i wella ansawdd, diogelwch a darpariaeth gofal cleifion yng Nghymru. Mae archwiliad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu ac yn monitro pa mor dda y bydd gwelliannau yn cael eu cyflwyno.

Disgwylir i sefydliadau'r GIG yng Nghymru gymryd rhan mewn archwiliad clinigol fel rhan o ofynion Safon 3.3 Safonau Iechyd a Gofal 2015, sy'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gofal iechyd ddilyn cylch o welliannau ansawdd parhaus sy'n cynnwys archwiliad clinigol.

Ffurfiwyd y Pwyllgor Cynghori ar Archwilio Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau yn 2011 (gweler y cylch gorchwyl isod). Diben y Pwyllgor yw rhoi cyngor ar gyfranogiad a pherfformiad Cymru yn y Rhaglen Archwilio Clinigol Cenedlaethol a Chanlyniadau Cleifion (NCAPOP) a gwneud y gorau o'r manteision o'r archwiliadau drwy annog dysg gyffredin i wella ansawdd a diogelwch triniaeth a gofal i gleifion.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn cynnig cyngor i GIG Cymru ar bethau i'w dysgu o'r Adolygiadau Canlyniadau (a elwid yn flaenorol yn Ymholiadau Cyfrinachol) sydd wedi'u cynnwys yn y NCAPOP.

Dylai bod gan bob sefydliad raglenni archwilio clinigol blynyddol sy'n cynnwys archwiliadau cenedlaethol a lleol sy'n mynd i'r afael â'u blaenoriaethau.

Dolenni ac Adnoddau Defnyddiol: