Neidio i'r prif gynnwy

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol

 

Sefydlwyd NICE yn wreiddiol ym 1999 fel Awdurdod Iechyd Arbennig yng Nghymru a Lloegr. Yn dilyn yr Adolygiad Hyd Braich o Gyrff a gynhaliwyd yn Lloegr yn 2004, ailffurfiwyd NICE fel Awdurdod Iechyd Arbennig a rhoddodd Lywodraeth Cymru gytundeb ar waith i gael defnyddio’r agweddau clinigol ar waith NICE. Ers hynny mae NICE wedi’i ailffurfio (1 Ebrill 2013) fel Corff Cyhoeddus Anadrannol.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar Gytundeb Lefel Gwasanaeth newydd â NICE sy’n cwmpasu arfarniadau technoleg, canllawiau clinigol a chanllawiau ar weithdrefnau drwy’r croen. Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys iechyd cyhoeddus a chanllawiau gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn ogystal â Safonau Ansawdd a Llwybrau Clinigol newydd NICE a Thystiolaeth y GIG.

Mae'r canllawiau Arfarnu Technoleg a gyhoeddir gan NICE yn ddarostyngedig i Gyfarwyddyd ariannu a gyhoeddir gan Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn gosod cyfrifoldeb statudol ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru i drefnu bod technolegau iechyd a argymhellir gan NICE ar gael o fewn tri mis i ddyddiad eu cyhoeddi, oni cheir cyfarwyddyd fel arall gan Lywodraeth Cymru.