Neidio i'r prif gynnwy

Gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cyfeirio at broses lle mae pobl, a’r angen i hyrwyddo eu hannibyniaeth a’u gallu i wneud dewisiadau a chael y rheolaeth briodol, yn ganolog ac yn seiliedig ar athroniaeth o gydweithredu fel tîm. Mae’n ystyried anghenion a barn pobl, gan ddatblygu cysylltiadau ag aelodau’r teulu. Mae’n cydnabod y dylai gofal fod yn holistaidd, a bod iddo ddimensiwn ysbrydol, bugeiliol, a chrefyddol. Mae darparu gofal sy’n seiliedig ar yr unigolyn yn golygu bod angen darparu gofal sy’n ddiogel ac yn effeithiol ac sy’n arwain at brofiad da i bobl. Mae hyn yn ymateb i’r angen a fynegwyd gan GIG Cymru o ran y gallu i ddisgrifio prif benderfynyddion profiad ‘da’ er mwyn helpu defnyddwyr a darparwyr i asesu sut mae pobl yn teimlo, gan sicrhau canlyniadau gwell o ganlyniad i’r gofal a’r gwasanaethau a ddarperir iddynt.

Mae cynhyrchu ar y cyd yn gallu helpu i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy’n blaenoriaethu’r angen i ganolbwyntio ar y claf, ei deulu a’i ofalwyr, wrth wneud unrhyw benderfyniadau a chynlluniau sy’n ymwneud â darparu gofal iechyd. Mae’n gweld cleifion fel partneriaid cyfartal yn y gwaith o gynllunio, datblygu ac asesu gofal er mwyn darparu’r gofal mwyaf priodol ar gyfer diwallu anghenion yr unigolyn. Mae cyd-gynhyrchu yn ddull gweithredu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy’n golygu bod angen ymgysylltu â dinasyddion, cymunedau, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi, gan dynnu ar eu holl arbenigedd er mwyn sicrhau canlyniadau mwy effeithiol a chynaliadwy a phrofiad gwell i bawb.