Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol
Ymunodd Andrew â'r GIG fel Rheolwr Cyffredinol dan Hyfforddiant yng Ngogledd Cymru yn 1990. Ers hynny, mae wedi gweithio mewn nifer o rolau strategol a gweithredol ar lefel cyfarwyddwr ledled Cymru gyfan. Mae'r rhain wedi cynnwys gwasanaethau clinigol ac anghlinigol sy'n cael eu darparu mewn lleoliadau gofal sylfaenol, cymunedol ac acíwt, yn ogystal â datblygu strategaeth a gwasanaethau ar lefel Cymru gyfan.
Ar ôl ennill profiad helaeth ledled y GIG trwy reoli gwasanaethau a sefydliadau sy'n aml yn gymhleth, ac ar ôl cynllunio a darparu rhaglenni a phrosiectau gwella ar bob lefel sefydliadol, mae Andrew wedi datblygu dull systemau cyfan o gynllunio a darparu gwasanaethau.
Mae'r dull hwn yn canolbwyntio'n helaeth ar adeiladu partneriaethau cryf â rhanddeiliaid er mwyn deall yr amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo. Mae hyn yn ei dro yn caniatáu dylunio gwasanaethau sy'n ychwanegu gwerth iddynt yn benodol ac i'r system iechyd a gofal ehangach yn fwy cyffredinol.
Mae Andrew yn credu'n gryf mai gofal sylfaenol, gyda'i bedair rhan hanfodol, yw carreg sylfaen y system iechyd a gofal ehangach. Mae hefyd yn credu bod cefnogi cynaliadwyedd gofal sylfaenol yn hanfodol i sicrhau bod y system ehangach hon yn rhedeg yn effeithiol ac yn effeithlon. Yn hyn o beth, mae gan Wasanaethau Gofal Sylfaenol rôl bwysig sy'n tyfu yn y Bartneriaeth Cydwasanaethau.
Trwy ddefnyddio eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u harbenigedd i ddarparu gwasanaethau rheoli data, gwasanaethau trafodion a gwasanaethau cymorth ar gyfer practisiau meddygon teulu o'r radd flaenaf, gall Gwasanaethau Gofal Sylfaenol gyfrannu'n sylweddol at wella cynaliadwyedd gofal sylfaenol yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi cyflwyno'r Rhaglen Gofal Sylfaenol Genedlaethol.
Cafodd Andrew ei eni yn Llangollen a'i fagu yn Rhuthun yng Ngogledd Cymru ac mae bellach yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru. Mae'n gefnogwr brwd o chwaraeon Cymru ac yn arsylwr selog ar dimau effeithiol.
Jade Robinson
Ffôn: 01495 332113