Neidio i'r prif gynnwy

Andy Butler

Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Mae Andy yn Gyfrifydd Siartredig a raddiodd o’r Brifysgol yn 1984 gan ymuno â Deloitte Haskins and Sells yng Nghaerdydd fel archwilydd hyfforddedig. Ar ôl nifer o flynyddoedd yn ymarfer yn y sector fasnachol, cynorthwyodd Andy i sefydlu sector cyhoeddus Coopers And Lybrand yng Nghymru gan ddarparu gwasanaethau archwilio allanol a mewnol i’r GIG a Llywodraeth Leol. Ar ôl secondiadau i adran Gwasanaethau Cymdeithasol fawr a’r adran sicrwydd ansawdd yn y Comisiwn Archwilio, symudodd i  PricewaterhouseCoopers ym Mryste yn 2002 lle y bu’n uwch reolwr yn darparu gwasanaethau cynghori ac ymgynghori yn y sector cyhoeddus yn Ne Orllewin Lloegr.

Ymunodd Andy â GIG Cymru yn 2007 fel Cyfarwyddwr Cyllid Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yng Nghymru cyn dod yn Gyfarwyddwr Arweiniol yn 2010. Yn ystod y cyfnod hwn cymerodd ran yn y prosiect i sefydlu sefydliad cydwasanaethau yn GIG Cymru ac ym mis Ebrill 2011 ymunodd Andy â Phartneriaeth Cydwasanaethau fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol.

Mae Andy yn briod a chanddo 2 o blant; mae’n mwynhau cerdded ac mae wedi bod yn hyfforddwr/dyfarnwr pêl-droed ers 10 mlynedd. Mae hefyd yn gefnogwr brwd yr adar Gleision - Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Andy Butler

 

Cyswllt

Cynorthwyydd Personol

Jillian Haynes

Ffôn: 01443 848585

 

Rhannu: