Neidio i'r prif gynnwy

Stuart Douglas

BSc (Anrh) PGDip MRICS MAPM

Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfleusterau

Yn dilyn gyrfa lwyddiannus iawn yn gweithio ar draws De Lloegr fel cynghorydd ystadau ar gyfer rhaglenni datblygu mawr y GIG, a hynny o fewn y GIG ac fel ymgynghorydd, ymunodd Stuart â Gwasanaethau Ystadau Arbenigol PCGC fel Pennaeth Datblygu Ystadau yn 2018. Daeth yn rhan anhepgor o’r tîm yn gyflym iawn ac mae’n darparu cyngor i Lywodraeth Cymru a sefydliadau Iechyd ledled Cymru.

Cafodd ei ddyrchafu i rôl Dirprwy Gyfarwyddwr a Phrif Gynghorydd Ystadau i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2021 ac mae ei gylch gwaith yn cynnwys cynorthwyo’r Cyfarwyddwr i oruchwylio’r gwaith o ddarparu’r portffolio llawn o Wasanaethau Ystadau Arbenigol. Fe’i penodwyd i rôl Cyfarwyddwr a dechrau arno ym mis Chwefror eleni yn dilyn ymddeoliad Neil Davies.

Mae gan Stuart Radd Anrhydedd mewn Gwasanaeth Mesur Meintiau a Diploma Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth. Mae’n Syrfëwr Meintiau Siartredig, yn Aelod o’r Gymdeithas Rheoli Prosiectau ac yn Gyfarwyddwr Prosiectau Achrededig Ystadau’r GIG ar gyfer cynlluniau datblygu mawr y GIG.

Stuart Douglas

 

Cyswllt

Cynorthwyydd Personol

Suzanne Pullen

Ffôn: 02920 905382

 

Rhannu: