Mae AaGIC wedi datblygu cynllun cyflwyno ac wedi cadarnhau'r dyddiadau trosglwyddo canlynol:
Grŵp Arbenigedd |
Dyddiad trosglwyddo i’r Cyflogwr Arweiniol Sengl |
Meddygaeth i'r Henoed |
1 Ebrill 2021 |
Offthalmoleg |
1 Ebrill 2021 |
Seiciatreg Uwch |
1 Mai 2021 |
Patholegau |
1 Mai 2021 |
Obstetreg a Gynaecoleg / Iechyd Rhywiol |
1 Hydref 2021 |
Meddygaeth Uwch |
1 Hydref 2021 |
Anaestheteg Craidd / Meddygaeth Graidd / ACCS |
1 Rhagfyr 2021 |
Uwch Feddygaeth Frys |
1 Rhagfyr 2021 |
Uwch Anaestheteg a Gofal Dwys |
1 Mawrth 2022: |
Llawfeddygaeth Graidd |
1 Mai 2022 |
Unigolion dan Hyfforddiant
Bydd gan yr unigolyn dan hyfforddiant un cyflogwr yn ystod y cynllun hyfforddi cyfan. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn cylchdroi i sefydliad gwahanol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan PCGC, ac ni fydd angen ailedrych ar eich gwiriadau cyflogaeth fel arfer.
Rhagwelir y bydd y model yn lleihau biwrocratiaeth, bydd yn fwy teg ac y bydd yn gwella'r profiad gwaith i unigolion dan hyfforddiant.
Cyn y trefniadau newydd, bob tro roedd unigolyn dan hyfforddiant yn symud o un bwrdd iechyd neu sefydliad sy'n lletya i'r llall, roedd yn rhaid iddo/iddi newid cyflogwr. Roedd hyn yn cymryd llawer o amser ac roedd yn achosi problemau mewn meysydd fel morgeisi, codau treth, mynediad at hawliau gwasanaeth gweithwyr (e.e. beicio i'r gwaith, talebau gofal plant). Bydd y trefniadau newydd yn dileu'r problemau hyn.
Sefydliadau sy'n lletya ac AaGICY buddion i'r sefydliadau sy'n lletya ac i AaGIC yw:
Cyn 2015, byddai angen i Feddygon Teulu dan Hyfforddiant a oedd yn cwblhau rhaglen hyfforddi oedd yn ei wneud yn ofynnol iddynt gylchdroi/symud i wahanol adrannau, mewn gwahanol ysbytai a/neu fyrddau iechyd bob 6 mis, lenwi gwaith papur ar gyfer dechreuwyr newydd wrth iddynt gychwyn cylchdro newydd (e.e. ffurflenni cyflogres, gwiriadau cyn cyflogaeth). Felly, rhoddwyd trefniant y Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE) ar waith er mwyn i'r unigolion dan hyfforddiant gael eu cyflogi gan un cyflogwr trwy gydol eu rhaglen hyfforddi.
Cytunwyd wedyn y byddai'r SLE yn cyflogi Hyfforddeion Meddygon Teulu a phob grŵp hyfforddi Meddygol a Deintyddol ledled Gymru. Ers Awst 2020, mae'r tîm wedi bod yn trosglwyddo grŵp unigolion dan hyfforddiant gwahanol o gyflogaeth y Bwrdd Iechyd i gyflogaeth gan yr SLE bob mis.
Ar ôl i'r broses drosglwyddo gael ei chwblhau ar gyfer pob grŵp, maen nhw'n dod yn gyfrifoldeb yr SLE. Bydd y grwpiau'n parhau i drosglwyddo i'r SLE fesul un a bwriedir i'r broses gyfan gael ei chwblhau ym mis Mai 2022. Yna, bydd y tîm SLE yn cyflogi unrhyw ddechreuwyr newydd yn y grwpiau'n uniongyrchol. Bydd hyn yn cynnwys tasgau cynefino pwysig fel cynnal gwiriadau cyn cyflogaeth a phrosesu ffurflenni Gweithwyr Newydd ar gyfer y gyflogres.
Mae'r model SLE yng Nghymru yn fodel cyflogaeth cydweithredol, lle mae cyfrifoldebau'r cyflogwr traddodiadol yn cael eu rhannu rhwng tri phrif randdeiliad, sef: