Ar y dudalen hon mae dolenni i wybodaeth berthnasol ar gyfer hyfforddeion a Sefydliadau Lletyol.
Caiff yr adrannau hyn eu hadolygu a’u diweddaru yn rheolaidd os oes angen er mwyn sicrhau bod y wybodaeth fwyaf cyfredol ar gael.
Polisïau a Gweithdrefnau
Mae’ch cyflogaeth gyda PCGC yn amodol ar y Polisïau Personél a Chyflogaeth a’r Rheolau a’r Gweithdrefnau y mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi eu mabwysiadu’n ffurfiol.
Ffurflenni a Phrosesau
Mae nifer o ffurflenni cyflogaeth i gynorthwyo’r broses gyflogi Cofrestryddion sy’n Arbenigo mewn Ymarfer Cyffredinol. Bydd y ffurflenni a'r prosesau isod yn ddefnyddiol ar gyfer y meddygon Byrddau Iechyd a phractisau meddygon teulu.
Contract Cyflogaeth
Mae gan feddyg ddau gontract cyflogaeth yn ystod ei gyfnod o hyfforddiant arbenigol, sef y Contract Cyflogaeth Meddygol a Deintyddol ar gyfer y cyfnod mewn ysbyty, a chontract Pwyllgor Addysg Ymarfer Cyffredinol ar gyfer y cyfnod mewn practis Meddyg Teulu.
Cytundebau Lefel Gwasanaeth
Mae tri Chytundeb Lefel Gwasanaeth wedi eu datblygu rhwng y Cyflogwr Arweiniol (sef PCGC) a Deoniaeth Cymru, y Byrddau Iechyd a phractisiau Meddyg Teulu. Mae pob un wedi ei gymeradwyo gan bob parti ac mae’n manylu ar eu rhwymedigaethau.
Rhestr Cyflawnwyr Meddygol
Er mwyn dechrau gweithio mewn practis meddyg teulu, mae’n rhaid bod y Meddyg wedi ei gofrestru ar Restr Cyflawnwyr Meddygol.
Gwasanaethau Iechyd a Lles
Mae PCGC yn cynnig ystod o fentrau sydd ar gael i bob gweithiwr, gan gynnwys Cofrestryddion Meddyg Teulu Arbenigol.
Treuliau
In order to claim expenses associated with travel and study leave during their employment with NWSSP, GP Specialty Registrars are required to submit their claims via their own designated online E-Expenses account.
Iechyd Galwedigaethol
Cyn dechrau’r rhaglen hyfforddiant, bydd yn ofynnol i Gofrestryddion Meddyg Teulu Arbenigol gael cliriad Iechyd Galwedigaethol gan Adran Iechyd Galwedigaethol y Bwrdd Iechyd maen nhw’n gweithio iddo.