Neidio i'r prif gynnwy

Ein Tîm

Fel cyflogwr newydd y Cofrestrydd Meddyg Teulu Arbenigol, mae PCGC yn darparu gwasanaeth Adnoddau Dynol pwrpasol er mwyn cefnogi meddygon teulu dan hyfforddiant a’u sefydliadau lletyol.

Mae tîm y gweithlu meddygol yn cynnwys Uwch Reolwr y Gweithlu Meddygol a Swyddog y Gweithlu Meddygol, a’u gwaith ydy sicrhau bod pob mater yn ymwneud â chyflogaeth y Cofrestryddion Meddyg Teulu Arbenigol yn cael ei reoli a’i gefnogi’n effeithiol.

Mae’r tîm yn cydweithio â sefydliadau lletyol (y Bwrdd Iechyd / yr Ymddiriedolaeth a’r Practis Meddyg Teulu) a Deoniaeth Cymru, sy’n parhau i ddarparu’r agwedd addysgol ar y cynllun hyfforddiant.

 Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gysylltu â’r tîm, e-bostiwch: NWSSPGPSingleLeadEmployer@wales.nhs.uk.