Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'n gweithio: Cyflenwyr

Trwy’r Rhaglen Cyflenwyr â Blaenoriaeth, caiff anfonebau cyflenwyr eu talu’n gynt na thelerau’r contract, a hynny yn gyfnewid am ostyngiad yn y pris y byddwn yn cytuno arno ymlaen llaw. Caiff y gostyngiad hwn ei gymhwyso’n ddeinamig wrth i’r anfoneb gael ei thalu, ac mae’n dibynnu ar nifer y diwrnodau rydym yn cyflymu eich taliad cyn 30 diwrnod (dyma delerau’r contract gan amlaf).

I gyfrifo nifer y diwrnodau i gyflymu’r taliad, rydym yn defnyddio nifer y diwrnodau rhwng derbyn yr anfoneb a dyddiad talu’r anfoneb. Nid ydym ond yn cymhwyso gostyngiad os ydym wedi talu’r anfoneb yn gynt. Felly, os nad ydym yn gallu talu anfoneb yn gynt, ni fydd y cyflenwr yn rhoi gostyngiad.

Trwy ddefnyddio’r raddfa ddeinamig enghreifftiol isod: os caiff anfoneb o £100 ei chyflwyno a’i thalu 5 diwrnod ar ôl derbyn yr anfoneb, caiff taliad o £98.75 ei wneud i’r cyflenwr, ynghyd â nodyn debyd o £1.25.

Os caiff anfoneb o £100 ei chyflwyno a’i thalu 10 diwrnod ar ôl derbyn yr anfoneb, caiff taliad o £99 ei wneud i’r cyflenwr, ynghyd â nodyn debyd o £1.

Os caiff anfoneb o £100 ei chyflwyno a’i thalu 20 diwrnod ar ôl derbyn yr anfoneb, caiff taliad o £99.50 ei wneud i’r cyflenwr, ynghyd â nodyn debyd o £0.50.

 
pdf icon
 

Graph

 

Mae hyn yn golygu y caiff y cyflenwr ei dalu cyn gynted ag y caiff yr anfoneb ei hawdurdodi, a byddwn yn darparu nodyn debyd ar gyfer gwerth y gostyngiad. Bydd y nodyn debyd yn nodi cyfeirnod gwreiddiol yr anfoneb, er mwyn galluogi’r cyflenwr i gysoni’r cyfrifon.

Nid oes unrhyw gostau ar gyfer cofrestru â’r rhaglen, ac os na chaiff y cyflenwr ei dalu’n gynnar, ni chaiff gostyngiad ei roi: Dim cyflymiad, dim gostyngiad.