Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Cyflenwyr â Blaenoriaeth GIG Cymru

NHS Wales Priority Supplier Programme

Mae Rhaglen Cyflenwyr â Blaenoriaeth GIG Cymru yn anelu at wella’r ffordd rydym yn archebu, yn rheoli anfonebu ac yn cwblhau ein prosesau talu. Fe’i lansiwyd yn ystod ail hanner 2017, ac mae’n rhoi budd i’n cyflenwyr ac yn cynhyrchu incwm newydd y mae ei angen yn fawr ar GIG Cymru.

Mae’r Rhaglen Cyflenwyr â Blaenoriaeth yn galluogi adran Cyfrifon Taladwy GIG Cymru i dalu anfonebau ein cyflenwyr yn gynnar a chyn telerau eu contract (30 diwrnod fel arfer). Yn gyfnewid am y taliad cynnar hwn, gallwn negodi gostyngiad bach yn y pris, a gaiff ei gyfrifo trwy ddefnyddio nifer y diwrnodau y caiff taliad yr anfoneb ei gyflymu.   

Mae’r rhaglen hefyd yn gyfle inni wella ein perthynas â’n cyflenwyr, am ei bod yn cynnig detholiad o fuddion nad ydynt yn ymwneud ag arian, megis prosesu â blaenoriaeth, cyfleoedd marchnata cydweithredol, gwelededd a mynediad i GIG Cymru i’r cyflenwyr hynny sy’n dymuno cofrestru.

Am ragor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei gynnig i gyflenwyr, ewch i wefan y cyflenwyr.

Mae’n gyfle euraidd i GIG Cymru gynhyrchu incwm o drafodion gyda chyflenwyr, a all arwain at liniaru pwysau ariannol.

Felly, porwch drwy’r ficrowefan hon fel y gallwch ddeall y rhaglen yn well a deall sut y bydd yn effeithio arnoch chi fel aelod o staff. Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych trwy ddefnyddio NHSWPSP@oxygen-finance.com.

 

 

Taflen Wybodaeth am Raglenni GIG Cymru