Croeso i’r tudalennau gwybodaeth am Hysbysebion Gofal Sylfaenol
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC), mewn partneriaeth â GPWales a Llywodraeth Cymru, wedi datblygu gwefan reddfol a llyfn er mwyn i Bractisiau Meddyg Teulu yng Nghymru hysbysebu a rheoli swyddi gwag yn rhad ac am ddim.
O fis Medi 2019, rhaid cyflwyno pob cais am hysbyseb trwy wefan GPWales. Nid oes gofyniad bellach i lenwi ac e-bostio Ffurflen Gais ar gyfer Hysbyseb Meddyg Teulu.
Sylwch mai dim ond hysbysebu swyddi gwag practisiau nad ydynt dan reolaeth y gall GPWales ei wneud ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae gwasanaethau cyflogaeth PCGC yn gweithio gyda GPWales er mwyn gallu ehangu'r gwasanaeth hwn i bractisiau dan reolaeth y Bwrdd Iechyd yn y dyfodol agos. Os ydych chi'n bractis dan reolaeth sydd eisiau hysbysebu swydd wag, defnyddiwch broses awdurdodi swyddi gwag Trac ar gyfer eich sefydliad.
Os oes angen cymorth arnoch i hysbysebu'ch swyddi gwag, cysylltwch â Thîm Hysbysebu Gofal Sylfaenol PCGC yn:
Gwasanaethau Recriwtio PCWC
Tŷ Matrix
Boulevard y Gogledd
Parc Matrix
Parc Anturiaeth Abertawe
Abertawe
SA6 8BX
Ffôn: 01792 860501
Os ydych chi'n profi unrhyw broblemau technegol gyda GPWales, cysylltwch ag: Admin@GPWales.co.uk
Os oes gennych awgrymiadau neu adborth ar GPWales, e-bostiwch Tîm Gwella Gwasanaethau Cyflogaeth PCGC drwy NWSSP.PrimaryCareWNWRS@wales.nhs.uk
Mae'r fenter hon yn rhan o raglen Cynaliadwyedd Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am Gynaliadwyedd Gofal Sylfaenol, ewch i:
pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-cyflogaeth/cynaliadwyedd-gofal-sylfaenol/
Mae adborth yn bwysig i ni allu gwella’r gwasanaeth a ddarparwn. Felly byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau arolwg byr, os gwelwch yn dda, yBroses Hysbysebu Gofal Sylfaenol.