Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwr Banc Clerigol Cyfreithiol

Ceisiadau ar gau.

Cyflogwr:               Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Adran:                    Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg

Lleoliad:                 Swyddfa/Gweithio Gartref Dros Dro

Cyflog:                   £9.03 yr awr

Oriau:                     Dewch inni drafod – i gyd-fynd ag anghenion gweithredol a’ch addysg

 

Cyfle unigryw yn ystod adeg heb ei thebyg

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC yn dîm uchelgeisiol sy'n darparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol ar gyfer pob un o’r byrddau Iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru. Rydym yn dymuno cryfhau ein timau trwy ddatblygu ‘banc’ o weithwyr hyblyg, medrus iawn sydd eisiau gweithio i’r GIG a gwneud gwahaniaeth. P'un a ydych yn ceisio gwella'ch set sgiliau, am ennill mwy o brofiad neu ennill ychydig o arian ychwanegol, gallai hyn fod yn gyfle i chi.

Bydd gwaith ar gael ar sail ad-hoc, yn ôl yr angen gan anghenion busnes.

 

Sut rydyn ni'n gweithio

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi’u lleoli yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau COVID-19 ac rydyn ni wedi cyflwyno rheoliadau gweithio gartref a rheoliadau gweithio diogel yn y swyddfa ar draws y sefydliad. Rydyn ni hefyd yn edrych ar sut rydyn ni'n cydbwyso hyblygrwydd â'r gymuned, a sut rydyn ni'n rheoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.

 

Beth fyddwch chi'n ei wneud

Byddwch yn cefnogi'r tîm trwy weinyddu hawliadau o ddydd i ddydd a/neu gyngor cyfreithiol ar ran Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol y GIG mewn un neu fwy o'r meysydd isod:

  • Esgeulustod Clinigol
  • Anafiadau Personol
  • Y Llys Gwarchod/Cwestau
  • Cyfraith Fasnachol/Gaffael
  • Eiddo Masnachol
  • Cyflogaeth

 

Am bwy rydyn ni'n chwilio

Byddwch yn uchelgeisiol, yn awyddus i ddatblygu ac yn barod am her newydd. Byddwch chi am wneud gwahaniaeth go iawn.

Bydd angen i chi fod yn fyfyriwr israddedig sydd wrthi’n cwblhau eich gradd yn y gyfraith (myfyrwyr 2il flwyddyn ac uwch) neu radd ôl-raddedig (e.e. Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC) neu Ddiploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL)). Daw ein timau o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent yn dod ag ystod o brofiad proffesiynol a phersonol, ond rydym i gyd yn rhannu'r un gwerthoedd. Rydyn ni'n gwrando ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd wrth gydweithio i gyflawni'r swydd. Rydym yn sefyll yn gadarn y tu ôl i’n penderfyniadau ac nid ydym yn ofni herio'r status quo.

A yw hyn yn swnio fel chi; a allai hwn fod y cam cyntaf ar eich taith broffesiynol? A allem ni roi ystod eang o gyfrifoldeb a phrofiad i chi na fyddech yn ei gael gan lawer o gyfleoedd eraill am brofiad gwaith?

 

Os hoffech wneud cais, cyflwynwch eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn amlinellu'r pwyntiau canlynol:

• Eich angerdd a'ch dyheadau i weithio yn y gyfraith

• Beth allech chi gyfrannu at Wasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC

• Beth rydych chi'n gobeithio ei ennill o'r profiad hwn

• Sut rydych chi'n cwrdd â'n pedwar gwerth craidd:

o Cydweithio

o Gwrando a Dysgu

o Cymryd Cyfrifoldeb

o Arloesi

 

Mae ceisiadau am y rolau hyn ar gau a byddwn yn dychwelyd at ymgeiswyr llwyddiannus ddiwedd mis Ebrill.