Daeth Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 i rym ar 1 Ebrill 2004, ac roedd y diwygiad a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeintyddion sy'n ymgymryd â gwasanaethau deintyddol sylfaenol yng Nghymru gael eu cynnwys ar Restr Perfformwyr Deintyddol yng Nghymru. Rhaid gwneud cais ffurfiol ac mae canllawiau a ffurflenni cais ar gael ar y wefan hon. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol o hyd i ymarferwyr deintyddol sydd eisoes wedi'u cynnwys ar Restr Perfformwyr Deintyddol sefydliad gofal sylfaenol arall yn y DU wneud cais i ymuno â rhestr Cymru i weithio yng Nghymru.
Noder: Os na allwch ddod o hyd i ddeintydd penodol ar y rhestr, cysylltwch â