Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud cais am gael eich cynnwys ar y Rhestr Cyflawnwyr Deintyddol

Dentist

1. Arweiniad

Rhaid i chi gwblhau ffurflen gais DPL1 os hoffech gael eich cynnwys ar y Rhestr Cyflawnwyr Deintyddol. Fodd bynnag, os ydych eisoes wedi eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr yn y DU, cwblhewch  ffurflen DPL 4A.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y canllawiau cyn cwblhau’r ffurflen gais hon:

  • Canllawiau – DPL1 ar gyfer meddygon sy’n gwneud cais am gael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol
  • Canllawiau – DPL4A ar gyfer meddygon sydd eisoes wedi eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol Sefydliad Gofal Sylfaenol yn y DU

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais yng ngham tri y broses.

Hysbysiad Diogelu Data

Mae deddfwriaeth i ddiogelu data yn diogelu’r wybodaeth bersonol yr ydych wedi ei darparu ar y Ffurflen Gais hon.  Mae Cytundeb Cyfrinachedd, hyfforddiant cynhwysfawr a phrotocolau Llywodraethu Gwybodaeth penodol yn berthnasol i bob aelod o staff a fydd yn prosesu’ch gwybodaeth. Caiff y broses hon ei chwblhau mewn modd teg a chyfreithlon, a dim ond staff y mae angen iddynt weld eich gwybodaeth at ddibenion cyfreithlon a fydd yn ei gweld.  Ni fydd eich gwybodaeth bersonol ond yn cael ei defnyddio at y dibenion y mae angen ei defnyddio, a bydd y dibenion hyn yn cyd-fynd â’ch disgwyliadau.

Ni fyddwn yn rhoi’ch manylion personol i unrhyw sefydliad arall yn fwriadol at unrhyw ddibenion heb gael eich caniatâd diamwys, oni bai bod rheswm cyfiawn a chyfreithlon dros wneud hynny.  Fodd bynnag, byddwch yn cael gwybod am hyn cyn gynted â phosibl.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am gyfrinachedd yr wybodaeth a ddarparoch chi, cysylltwch â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru trwy ffonio 02920 902272, neu drwy e-bostio nwsspinformationgovernance@wales.nhs.uk neu gallwch ymweld â https://nwssp.nhs.wales/about-us/information-governance/

2. Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Os ydych yn gwneud cais i gael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol yng Nghymru a’ch bod yn gallu rhoi tystiolaeth eich bod yn meddu ar dystysgrif fanylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a chyda’r Rhestrau Gwahardd Oedolion a Phlant wedi eu gwirio) sydd wedi cael ei dyfarnu yn ystod y chwe mis cyn dyddiad eich cais (neu dair blynedd o ddyddiad eich cais os ydych eisoes wedi cael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Sefydliad Gofal Sylfaenol arall), ni fydd angen i chi gwblhau gwiriad DBS pellach.

Os nad ydych yn meddu ar dystysgrif DBS fanylach sy’n llai na chwe mis oed (neu dair blynedd o ddyddiad eich cais os ydych eisoes wedi eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Sefydliad Gofal Sylfaenol arall), bydd angen i chi cwblhau ffurflen DBS ar-lein. Fodd bynnag, cyn gwneud hynny argymhellir eich bod yn darllen y canllawiau o’r enw Completing the On-Line Disclosure and Barring Service Application Form oherwydd bod y nodiadau hyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y cyfrineiriau a’r codau sydd eu hangen i gwblhau’r ffurflen.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen ar-lein bydd angen i chi wneud apwyntiad am gyfweliad wyneb yn wyneb fel y gall swyddog awdurdodedig ddilysu eich dogfennau a’ch cais ar-lein. Gellir cynnal cyfweliad wyneb yn wyneb trwy gyswllt fideo ar yr amod bod y swyddog awdurdodedig wedi derbyn eich dogfennau gwreiddiol. Rhaid i’r cyfweliad wyneb yn wyneb gael ei gynnal o fewn tri mis o gwblhau eich ffurflen DBS ar-lein. Os na fyddwch yn cael eich cyfweld o fewn tri mis, byddwn yn cymryd eich bod wedi tynnu eich cais yn ôl a byddwn yn cael gwared ar eich ffurflen ar-lein o’r gronfa ddata.

Sicrhewch eich bod yn gwneud nodyn o’r cyfeirnod (caiff ei roi i chi ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen), oherwydd bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb. Gallwch drefnu apwyntiad drwy e-bostio nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk neu drwy ffonio eichswyddfa Gwasanaethau Gofal Sylfaenol PCGC agosaf.

Noder na fyddwch yn cael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol hyd nes ein bod wedi gweld eich tystysgrif DBS fanylach er mwyn cadarnhau bod unrhyw wybodaeth a ddarparoch yn foddhaol. Noder nad yw meddu ar gofnod troseddol o reidrwydd yn rhwystr rhag cael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol Bwrdd Iechyd.

Gallwch ddod o hyd i ffurflen gais DBS ar-lein trwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://disclosure.capitarvs.co.uk/cheqs/

 

3. Ffurflen Gais

Rhaid i chi gwblhau’r canlynol:

  • Ffurflen DPL 1 (os hoffech gael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol); neu
  • Ffurflen DPL 4A (os ydych eisoes wedi cael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr yn y DU)

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y canllawiau cyn cwblhau’r ffurflen gais.

  • Canllawiau ar gyfer deintyddion sy’n gwneud cais am gael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol
  • Canllawiau ar gyfer deintyddion sydd eisoes wedi cael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol Sefydliad Gofal Sylfaenol yn y DU

Os oes angen i chi wneud cais am Rif Hyfforddiant Galwedigaethol cliciwch yma