DIM OND Meddygon sy’n Rhagnodi (cyfrifon Gweinyddu Personol) ddylai lenwi ffurflen WP34P.
Ffurflen WP34P (doc,440kb)
Cwblhewch un ffurflen ddatgan yn unig yn unol â Pharagraff 15 y Datganiad o Hawliadau Ariannol.
Dylid cyflwyno enwau’r holl feddygon, p’un a yw’r meddygon mewn partneriaeth yn rhannu llwythi’n fwndeli sy’n ymwneud â meddygon unigol ai peidio.
Y mynegrif gofynnol yw’r un sydd wedi ei argraffu ar y presgripsiwn.
Lle y bo llwyth partneriaeth wedi ei rannu’n fwndeli sy’n ymwneud â meddygon unigol, fel y nodir ym Mharagraff 15 y Datganiad o Hawliadau Ariannol, dylid cwblhau’r colofnau hyn ar gyfer pob meddyg. Fel arall, bydd cyfanswm y partneriaethau yn ddigonol.
Dylid nodi manylion am frechlynnau sydd wedi eu prynu a’u gweini’n bersonol ar gyfer y ffliw, teiffoid, Hepatitis A, Hepatitis B, brechlynnau niwmococol a brechlynnau meningococol yn Atodiad y ffurflen WP34P. Ni dderbynnir WP10au unigol ar gyfer y brechlynnau hyn yng nghyfrifon meddygon.
Rhaid cynnwys nifer yr eitemau a hawliwyd am frechlynnau ar Atodiad WP34P yn rhan o’r cyfanswm dros y dudalen.
NODER: Bellach gellir cwblhau ceisiadau am frechlynnau ar-lein. Gweler Hawliadau Amlfrechlyn Electronig (EMVC) Os gwelwch yn dda:
Mae cylchlythyr FHSL (96)30, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 1996, yn darparu rhagor o wybodaeth am gwblhau’r Atodiad.