Neidio i'r prif gynnwy

Contractwyr

Contractors

Diweddariad ynghylch ETC – Mawrth 2019

Ar hyn o bryd mae'r holl systemau cyflenwyr wedi cyrraedd y cam ‘mynd yn fyw’ h.y maent wedi cyflwyno ETC yn yr amgylchedd byw. Cysylltwch â chyflenwr eich system am ragor o wybodaeth. Noder y dylai contractwyr barhau i ddethol eu cyfrifon yn unol â'r trefniadau presennol yn ystod y cam ‘mynd yn fyw’. Ni fydd trefniadau dethol newydd yn dod i rym nes cyrraedd y targedau cyflwyno ETC. Gweler Cwestiynau Cyffredin 3.1 am ragor o wybodaeth.

Noder bod darpariaethau’r Tariff Cyffuriau ynghylch y taliad gwasanaeth Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg misol bellach wedi’u diweddaru.

O fis Mehefin 2019, caiff cydymffurfiaeth â Chyfnod 2, Cyfnod Rhyddhau 3 ei hasesu yn erbyn canran y negeseuon hawlio ETC a gyflwynir ar gyfer eitemau presgripsiwn cymwys. Diffinnir eitemau cymwys fel y rhai a ragnodir ar bresgripsiwn WP10 sy’n cynnwys cod bar 2DRx. Er mwyn cadw’r lwfans Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg, rhaid i bob contractwr gyflwyno negeseuon hawlio ETC i gyrraedd y trothwyon canlynol:

  • O fis Mehefin 2019 – 40%
  • O fis Medi 2019 – 55%
  • O fis Rhagfyr 2019 – 70%
  • O fis Mawrth 2020 – 80%

Gellir dod o hyd i wybodaeth am gyfraddau trosglwyddo ETC ar gyfer fferyllfeydd unigol yma.

NODER: Anghysondeb yn yr adroddiad Cyfradd Trosglwyddo ETC a gyhoeddwyd ar 10 Mai 2019

Rydym wedi dod i’r casgliad bod anghysondeb data ar gyfer nifer o gyfrifon yn yr adroddiad Cyfradd Trosglwyddo ETC a gyhoeddwyd ar 10 Mai 2019.

 

Problemau Trosglwyddo ETC

Cwblhewch y ffurflen hon os ydych yn cael problemau gyda’ch system Cofnodion Meddyginiaethau Cleifion (PMR) a allai eich atal rhag cyrraedd y targed trosglwyddo ETC. Rydym yn argymell eich bod yn trafod y broblem gyda’ch cyflenwr PMR cyn cwblhau’r ffurflen hon.

 

Eisiau gwybod rhagor am ETC?

Cymerwch olwg ar ein cyflwyniad i ETC

neu

porwch drwy eich cwestiynau cyffredin.

 

Beth os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb fy nghwestiwn?

Cyflwynwch eich cwestiwn i prescribing.management@wales.nhs.uk. Byddwn yn ymateb ac yn ychwanegu eich cwestiwn at y cwestiynau cyffredin lle bydd hynny’n briodol.

 

Dogfennau Defnyddiol


pdf icon
 

ETC – Cwestiynau Cyffredin

 

ppt icon
 

Cyflwyniad i ETC