Neidio i'r prif gynnwy

Cyfraddau Trosglwyddo ETC

ETC Transmission Rates

Gellir dod o hyd i wybodaeth am gyfraddau trosglwyddo ETC ar gyfer fferyllfeydd unigol yn yr adran ddogfennau isod.

Mae’r adroddiadau yn dangos cyfnod treigl o dri mis yn cymharu nifer y presgripsiynau papur 2DRx a gyflwynir yn erbyn y negeseuon ETC cyfatebol a dderbynnir. Noder na fydd y mis diweddaraf ym mhob adroddiad yn dangos cyfradd ganrannau ar gyfer trosglwyddiadau. Mae hyn oherwydd y ffaith bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod pan fydd cyflwyniadau papur yn dal i gael eu derbyn a’u sganio. Mae wedi’i gynnwys dim ond er mwyn adrodd ar niferoedd y trosglwyddiadau ETC ar gyfer y mis hwnnw fel y gall contractwyr gael syniad o’u lefelau trosglwyddo.

Er enghraifft, caiff yr adroddiad sy’n cwmpasu’r cyfnod o fis Chwefror 2019 i fis Ebrill 2019 ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Mai tra bydd cyflwyniadau mis Ebrill yn dal i gyrraedd a chael eu sganio.

Dogfennau

Mae rhestr lawn o'n dogfennau i'w gweld yma.