Stuart Douglas
Gyfarwyddwr (Gwasanaethau Ystadau Arbenigol)
BSc (Anrh) PGDip MRICS MAPM
Yn dilyn gyrfa lwyddiannus iawn yn gweithio ledled De Lloegr fel cynghorydd ystadau ar gyfer rhaglenni datblygu mawr y GIG o fewn y GIG ac fel ymgynghorydd, ymunodd Stuart â Gwasanaethau Ystadau Arbenigol PCGC fel Pennaeth Datblygu Ystadau yn 2018 ac yn fuan iawn daeth yn rhan annatod o’r tîm a darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac i’r Byrddau Iechyd ledled Cymru.
Daeth Stuart yn Ddirprwy Gyfarwyddwr inni ym mis Awst 2021, gan gynorthwyo’r Cyfarwyddwr i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn i Lywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd yn cael eu cydlynu a'u darparu mewn ffordd sy’n bodloni eu gofynion.
Mae gan Stuart Radd Anrhydedd mewn Arolygu Meintiau, a Diploma Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth. Mae'n Syrfëwr Meintiau Siartredig, yn Aelod o'r Gymdeithas Rheoli Prosiectau ac yn Gyfarwyddwr Prosiect Achrededig Ystadau'r GIG ar gyfer cynlluniau datblygu mawr yn y GIG.