Mae’r Safonau Iechyd a Gofal, a’u canllawiau ategol, wedi cael eu llunio’n seiliedig ar saith thema a gafodd eu datblygu drwy ymgysylltu â chleifion, clinigwyr, a rhanddeiliaid, er mwyn nodi’r meysydd o flaenoriaeth y dylid eu defnyddio i fesur gwasanaethau’r GIG. Mae hyn yn sicrhau bod y Safonau Iechyd a Gofal yn cyd-fynd â fframwaith Canlyniadau’r GIG a fframwaith Cyflwyni’r GIG sydd hefyd yn canolbwyntio ar saith thema. Defnyddir eu cydgysylltiadau a’u cyd-fesurau i gryfhau gweithio mewn partneriaeth ac i gyflwyno gwelliannau ym meysydd iechyd a llesiant. Hefyd manteisiwyd ar y cyfle i sicrhau bod canlyniadau yn cyd-fynd â chanlyniadau gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd.
At ei gilydd, mae’r saith thema, a ddangosir isod ar ffurf diagram olwyn, yn disgrifio sut y gall gwasanaethau ddarparu gofal diogel a dibynadwy o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi ei roi yng nghanol yr olwyn, ac mae’r ffaith bod hynny’n dibynnu ar lywodraethu effeithiol, arweinyddiaeth gadarn, ac atebolrwydd yn cael ei ddangos drwy roi’r rhain ar hyd yr ochr o gwmpas y saith thema.
Mae pob un o’r themâu yn cynnwys disgrifiad o’r egwyddor allweddol, a’r hyn y mae’n ei olygu i unigolyn pan fo’r safonau o fewn y thema a meini prawf pob safon yn cael eu bodloni.
Mae pob un o’r saith thema yn cynnwys nifer o safonau. Nid yw’r rhain yn cael eu rhestru yn nhrefn eu blaenoriaeth, a cheir rhywfaint o orgyffwrdd ar draws themâu a safonau. Mae rhai safonau’n ehangach eu perthnasedd ac mae iddynt ddylanwad mwy pellgyrhaeddol o ran cyfathrebu’n effeithiol, gwella ansawdd, ymchwil ac arloesi, rheoli gwybodaeth, a thechnoleg gyfathrebu, cadw cofnodion, a hawliau pobl. Mae pob safon yn disgrifio’r canlyniad lefel uchel y mae ei angen er mwyn cyfrannu at ansawdd a diogelwch, sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy’n seiliedig ar lywodraethu effeithiol, arweinyddiaeth gadarn, ac atebolrwydd.
Mae canllawiau ategol ar gael i helpu gwasanaethau i fodloni’r gofynion ar gyfer pob safon.