Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Pryd y bydd fy swydd hyfforddi yn cael ei symud i'r model Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE)?

Mae AaGIC wedi datblygu cynllun cyflwyno ac wedi cadarnhau'r dyddiadau trosglwyddo canlynol:

Grŵp Arbenigedd

Dyddiad trosglwyddo i’r Cyflogwr Arweiniol Sengl

Meddygaeth i'r Henoed

1 Ebrill 2021

Offthalmoleg

1 Ebrill 2021

Seiciatreg Uwch

1 Mai 2021

Patholegau

1 Mai 2021

Obstetreg a Gynaecoleg / Iechyd Rhywiol

1 Hydref 2021

Meddygaeth Uwch

1 Hydref 2021

Anaestheteg Craidd / Meddygaeth Graidd / ACCS

1 Rhagfyr 2021

Uwch Feddygaeth Frys

1 Rhagfyr 2021

Uwch Anaestheteg a Gofal Dwys

1 Mawrth 2022:

Llawfeddygaeth Graidd

1 Mai 2022

Beth yw manteision y model SLE?

Unigolion dan Hyfforddiant

Bydd gan yr unigolyn dan hyfforddiant un cyflogwr yn ystod y cynllun hyfforddi cyfan. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn cylchdroi i sefydliad gwahanol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan PCGC, ac ni fydd angen ailedrych ar eich gwiriadau cyflogaeth fel arfer.

Rhagwelir y bydd y model yn lleihau biwrocratiaeth, bydd yn fwy teg ac y bydd yn gwella'r profiad gwaith i unigolion dan hyfforddiant.

Cyn y trefniadau newydd, bob tro roedd unigolyn dan hyfforddiant yn symud o un bwrdd iechyd neu sefydliad sy'n lletya i'r llall, roedd yn rhaid iddo/iddi newid cyflogwr. Roedd hyn yn cymryd llawer o amser ac roedd yn achosi problemau mewn meysydd fel morgeisi, codau treth, mynediad at hawliau gwasanaeth gweithwyr (e.e. beicio i'r gwaith, talebau gofal plant). Bydd y trefniadau newydd yn dileu'r problemau hyn.

Sefydliadau sy'n lletya ac AaGIC        

Y buddion i'r sefydliadau sy'n lletya ac i AaGIC yw:

     
  • Darbodion Maint ar gyfer GIG Cymru;
  • Pwynt cyswllt sengl ar gyfer cymorth cyflogaeth ac arbenigedd i bob unigolyn dan hyfforddiant;
  • Symleiddio prosesau trafodion; a
  • Mwy o weithio agos gyda Chyflogwyr GMC / BMA / GDC / GPC / GIG Cymru mewn perthynas â materion cytundebol i unigolion dan hyfforddiant.
Sut mae'r model Cyflogaeth Arweiniol Sengl wedi esblygu yng Nghymru?

Cyn 2015, byddai angen i Feddygon Teulu dan Hyfforddiant a oedd yn cwblhau rhaglen hyfforddi oedd yn ei wneud yn ofynnol iddynt gylchdroi/symud i wahanol adrannau, mewn gwahanol ysbytai a/neu fyrddau iechyd bob 6 mis, lenwi gwaith papur ar gyfer dechreuwyr newydd wrth iddynt gychwyn cylchdro newydd (e.e. ffurflenni cyflogres, gwiriadau cyn cyflogaeth). Felly, rhoddwyd trefniant y Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE) ar waith er mwyn i'r unigolion dan hyfforddiant gael eu cyflogi gan un cyflogwr trwy gydol eu rhaglen hyfforddi.

Cytunwyd wedyn y byddai'r SLE yn cyflogi Hyfforddeion Meddygon Teulu a phob grŵp hyfforddi Meddygol a Deintyddol ledled Gymru. Ers Awst 2020, mae'r tîm wedi bod yn trosglwyddo grŵp unigolion dan hyfforddiant gwahanol o gyflogaeth y Bwrdd Iechyd i gyflogaeth gan yr SLE bob mis.

Ar ôl i'r broses drosglwyddo gael ei chwblhau ar gyfer pob grŵp, maen nhw'n dod yn gyfrifoldeb yr SLE. Bydd y grwpiau'n parhau i drosglwyddo i'r SLE fesul un a bwriedir i'r broses gyfan gael ei chwblhau ym mis Mai 2022. Yna, bydd y tîm SLE yn cyflogi unrhyw ddechreuwyr newydd yn y grwpiau'n uniongyrchol. Bydd hyn yn cynnwys tasgau cynefino pwysig fel cynnal gwiriadau cyn cyflogaeth a phrosesu ffurflenni Gweithwyr Newydd ar gyfer y gyflogres.

Beth mae'r model Cyflogaeth Arweiniol Sengl (SLE) yn ei gwmpasu?

Mae'r model SLE yng Nghymru yn fodel cyflogaeth cydweithredol, lle mae cyfrifoldebau'r cyflogwr traddodiadol yn cael eu rhannu rhwng tri phrif randdeiliad, sef:

  • Cyflogwr Arweiniol Sengl - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC)
  • Sefydliad sy’n Lletya
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)