Neidio i'r prif gynnwy

Cymelliadau Ariannol

finance

Cymelliadau Ariannol Hyfforddiant i Feddygon Teulu

Y Cymhelliad Targed:

Ar hyn o bryd, bydd Hyfforddeion Meddygon Teulu sy'n dechrau swydd gyntaf eu rhaglen hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru rhwng 2017 hyd at a chan gynnwys Chwefror 2024, mewn ardal wedi'i thargedu sydd â hanes o gyfraddau llenwi is na'r cyfartaledd, yn gymwys i gael taliad o hyd at £20,000 pe baent yn aros mewn ardal wedi'i thargedu trwy gydol eu hyfforddiant ac am flwyddyn o ymarfer ar ôl cymhwyso. Mae'r cymhelliant hwn wedi'i dargedu at feysydd hyfforddi wedi’u dethol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ('BIPHD'), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ('BIPBC') a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ('BIAP’) ('ardaloedd Bwrdd Iechyd cymwys').

Bydd meddygon teulu dan hyfforddiant sy’n dechrau penodiad cyntaf eu rhaglen hyfforddi yng Nghymru rhwng 2017 a hyd at a chan gynnwys Chwefror 2023 yn gymwys am y cymhelliad cyffredinol.

Bydd meddygon teulu dan hyfforddiant sydd wedi dangos eu haddasrwydd i dderbyn hyfforddiant meddyg teulu, yn unol â’r broses y cytunwyd arni’n genedlaethol ar gyfer recriwtio i Raglenni Hyfforddiant Arbenigol Meddygon Teulu, yn gymwys i dderbyn y cymhelliad cyffredinol ac, os ydynt yn cael eu hyfforddi yn un o’r meysydd dynodedig, y cymhelliad targed.

Bydd meddygon dan hyfforddiant o gynlluniau Gwent, De Powys a Bae Abertawe sy’n cwblhau eu penodiad ST3 cyfan mewn practis ym Mhowys hefyd yn gymwys am y cymhelliad targed.

 
pdf icon

Cymelliadau Ariannol

Am ragor o wybodaeth am gymelliadau ariannol, ewch i wefan Deoniaeth Cymru a gweler y canllawiau isod.