Mae Archwilio a Sicrwydd yn darparu gwasanaethau archwilio mewnol, archwilio arbennig ac ymgynghori dwyieithog i’r holl GIG yng Nghymru ac fe’i sefydlwyd ar Ebrill 1, 2011. Er mai gwasanaeth Cymru gyfan ydym ni, mae gennym bresenoldeb lleol ymhob cymuned iechyd, sydd wedi ei gysylltu gan rwydwaith cenedlaethol ac ymagwedd safonol at wneud ein gwaith. Mae’r wefan hon yn darparu peth gwybodaeth amdanom ni, y gwasanaethau a gynigiwn, lleoliadau ein swyddfeydd a gwybodaeth am sut i gysylltu.
Bob pum mlynedd rhaid i ddarparwyr Archwiliad Mewnol gael asesiad ansawdd annibynnol allanol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau Archwiliad Mewnol y Sector Cyhoeddus. Cafwyd ein asesiad ni ym Mawrth 2023 gan Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifyddiaeth Cyhoeddus (CIPFA). Daethpwyd i’r canlyniad fod y Gwasanaeth Archwiliad ac Aswiriant yn LLWYR GYDYMFFURFIO â gofynion Safonau Archwiliad Mewnol y Sector Cyhoeddus, sef y lefel uchaf o gydymffurfiaeth.