Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio Cyfalaf a Chaffael

Person yn gwirio rhifau gyda chyfrifiannell

Prosiectau Cyfalaf

Mae ein harchwiliadau cyfalaf wedi esblygu o sylfaen gadarn o brofiad arbenigol mewn archwilio nifer fawr o brosiectau cyfalaf a gyllidir mewn modd traddodiadol ledled nifer o sefydliadau. Yr egwyddorion sylfaenol er mwyn i brosiectau lwyddo a chyflawni eu nodau yw llywodraethu cadarn dros brosiect, rheoli prosiect ac amgylchedd rheoli effeithiol. 

Prif ffocws yr archwiliad yn achos prosiectau cyfalaf yw darparu archwiliad ar sail risg, cydbwyso uniondeb a phryderon gwerth ychwanegol. Rydym yn cydnabod natur peryglon risg y prosiectau hyn ac yn darparu cyngor rhagweithiol i’w cleientiaid ar anghenion systemau perthnasol sy’n cynnwys er enghraifft;

  • fframwaith rheoleiddio;
  • cymeradwyaeth a monitro;
  • trefnu/rheoli prosiect;
  • ymgynghorwyr technegol;
  • rheoli cyllidebol/cost;
  • tendro a phenodi;
  • comisiynu;
  • gwerthuso ac adrodd yn dilyn cytundeb; ac
  • asesu risg yn y dyfodol.

Mae risg uchel fel arfer i brosiectau cyfalaf, ac felly mae galw am wasanaeth archwilio rhagweithiol yn orfodol. Ni ellir gor-ddweud pa mor bwysig yw’r angen am reoli mewnol cryf a rheoli risg yn effeithiol. 

Rydym wedi gweithio gydag Ystadau GIG er mwyn sicrhau gweithredu’n llwyddiannus Procure 21 (ymateb GIG Lloegr i Adroddiad Egan, sydd wedi ei dderbyn gan y DU fel y ffordd ymlaen i wella caffaeliad gan y diwydiant adeiladu). Ein rôl, i gychwyn, oedd aelodau blaenllaw eu grŵp gwaith, yn datblygu rhaglennu allweddol ac yn ddiweddarach fel archwilwyr llyfr agored i brif bartneriaid cadwyn cyflenwi a phrif aelodau cadwyn cyflenwi, yn gweithredu’n genedlaethol.

 

Cynghorwyr Caffaeliad

Rydym wedi ein penodi yn brif gyflenwr i fenter caffaeliad Llywodraeth Cynulliad Cymru, Fframwaith Cynllun Oes: Adeiladu ar gyfer Cymru (D4L:B4W). Sefydlwyd y fframwaith gwreiddiol hwn yn 2006 i gynhyrchu lles arddangosiad, er mwyn cydymffurfio a’r nodau/gweledigaeth tymor hir a amlinellir yn adroddiad “Better Value Wales”. Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth archwilio a chynghori yn y fframwaith D4L:B4W 2 sy’n olynu a’r D4L:B4W 3 rhanbarthol.

 

Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat

Rydym wedi datblygu partneriaethau strategol, gyda’n sectorau cyhoeddus a phreifat, sydd wedi caniatáu i ni gyfranogi mewn ystod o brosiectau caffaeliad ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys mentrau cyllido preifat sylweddol, fel ail-ddatblygu strategol y gwasanaethau iechyd yn San Helen (gwerth cyfalaf £250m), Ymddiriedolaeth Frenhinol GIG Salford (gwerth cyfalaf £136m), ymddiriedolaeth Gofal GIG Mersey (gwerth cyfalaf posibl £125m) a chyflwyno Gwasanaeth Iechyd Newydd i Lerpwl (gwerth cyfalaf £300m).

Rydym yn darparu cyngor rhagweithiol i gleientiaid er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni eu nod yn llwyddiannus; gan ddefnyddio tîm archwilio mewnol arbenigol i’n cynorthwyo gyda datblygiad prosiect llwyddiannus.

Mae NHS LIFT yn bartneriaeth cyhoeddus-preifat rhwng y GIG a phartneriaid sector preifat, sydd wedi ei hanelu at wella safleoedd gofal sylfaenol o fewn y GIG yn Lloegr. Rydym wedi bod yn ymwneud â datblygu’r rôl archwilio mewn prosiectau NHS LIFT ac wedi bod yn cynorthwyo cleientiaid gyda datblygiad eu fframweithiau rheoli prosiect mewnol.