Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleoedd a swyddi gwag cyfredinol

Rydyn ni'n tyfu - dewch i ymuno â ni   

Hoffech chi weithio i sefydliad sy'n darparu cyfleoedd i ddatblygu ac i gydweithio â chydweithwyr tebyg ledled y GIG yng Nghymru?   Rydym yn sefydliad ystwyth ac mae’r cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill trwy ffocysu ar flaenoriaethau'r GIG, gwrando a chymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd.  

Mae Gwasanaethau Archwilio a Sicrwydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn dîm uchelgeisiol sy'n darparu ystod o wasanaethau cynghori, sicrwydd ac archwilio mewnol i holl sefydliadau GIG Cymru.  Rydym am gryfhau ein timau drwy recriwtio pobl angerddol a phenderfynol sydd eisiau gweithio i'r GIG a gwneud gwahaniaeth.    

Ar hyn o bryd, mae gennym gyfleoedd ar draws ystod lawn ein gwasanaethau, o Archwilio Mewnol i Wasanaethau Digidol a Chyfalaf ac Ystadau.   Mae'r rolau hyn yn cynnwys:   

  • Rheolwyr  
  • Archwilwyr Profiadol  
  • Rhaglenni datblygu archwilwyr  

 

Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud   

Byddwch yn cefnogi'r uwch dîm i gyflawni'r Cynlluniau Archwilio Strategol a Blynyddol ar gyfer ystod o sefydliadau ar draws GIG Cymru.    

 

pdf icon

 

Archwiliad Mewnol Strwythur GIG Cymru (PDF,94kb)

 

 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn yr ydym yn ei wneud, ewch i: https://pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-archwilio-a-sicrwydd/ynglyn-a-gwasanaethau-archwilio-a-sicrwydd/  

 

Am bwy rydyn ni'n chwilio? 

Byddwch yn uchelgeisiol, yn awyddus i ddatblygu ac yn barod am her newydd. Byddwch eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu i wella llywodraethu a pherfformiad ar draws GIG Cymru.   

Bydd angen i chi fodloni'r gofynion hanfodol yn ein manylebau person, ond rydym yr un mor awyddus i glywed gennych os ydych chi'n credu bod gennych y lefel o brofiad sydd ei angen neu gymwysterau mewn disgyblaethau ategol.

Daw ein timau o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent yn dod ag ystod o brofiad proffesiynol a phersonol, ond rydym i gyd yn rhannu'r un gwerthoedd. Rydyn ni'n gwrando ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd wrth gydweithio i gyflawni'r swydd. Rydym yn sefyll yn gadarn y tu ôl i’n penderfyniadau ac nid ydym yn ofni herio'r status quo.    

 

Sut rydyn ni'n gweithio   

Mae Archwilio a Sicrwydd yn gweithredu dull hyblyg o weithio.  Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru ac rydym wedi cyflwyno rheoliadau gweithio gartref a rheoliadau gweithio diogel ar y safle.    

Wrth inni symud ymlaen o effeithiau'r pandemig, rydym yn edrych ar ffyrdd amgen o weithio tra’n parhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol i gleientiaid ein sefydliadau GIG.  Bydd hyn yn debygol o fod yn gyfuniad o weithio gartref ac ar y safle.   

Bydd angen i chi allu ymrwymo i deithio rhywfaint ledled Cymru ac i wneud y defnydd gorau o'n datrysiadau technolegol rhagorol er mwyn datblygu, arwain a chefnogi cyflawniad ein gwasanaeth.   

Cyhyd â bod y cwsmer yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn, byddwn yn blaenoriaethu cyflawni gofynion y swydd dros glynu at batrymau gwaith traddodiadol. Mae hyn oherwydd ein bod yn deall y byddai mynnu cadw at batrymau gwaith traddodiadol efallai yn golygu na fyddem yn denu'r ymgeiswyr gorau. Felly, rydym yn hapus i drafod eich oriau gwaith a sut y byddech chi'n dymuno gweithio er mwyn sicrhau bod gweithio i ni yn gwella'ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.   

 

Ydyn ni'n bodloni eich gofynion chi?

Oes gennych chi'r ysfa a'r angerdd i helpu'r GIG yng Nghymru wrth iddo ddod dros y gwaethaf o ran COVID-19 a chynllunio ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru?  Os felly, a allai hwn fod yn gam nesaf ar eich taith broffesiynol?  A allem ni roi ystod eang o gyfrifoldeb, profiad a datblygiad i chi na fyddech yn ei gael gan dimau eraill?  

I gael rhagor o wybodaeth ac i ddarganfod sut y gallwch chi gyfrannu at GIG Cymru ar adeg wirioneddol ryfeddol, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol am yr hyn sydd gennym i'w gynnig.  Gellir dod o hyd i’n manylion cyswllt ar https://pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-archwilio-a-sicrwydd/cysylltwch-ar-gwasanaethau-archwilio-a-sicrwydd1/

Rydym yn rhan o GIG Cymru a nawr yw'r amser i ymuno â ni!