Neidio i'r prif gynnwy

Sicrwydd Gwybodeg

Dyn yn defnyddio gliniadur

Mae rheolaethau ym maes Rheoli Gwybodaeth, ynghyd â rheolaethau a phrosesau ym maes TG, yn hanfodol i’r gwaith o ddiogelu asedau a chynnal diogelwch data ynghyd ag uniondeb ac effeithiolrwydd gweithredol sefydliad.

Mae gennym dîm o weithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau QiCA a CISA, a all gynnig cyngor ar bob agwedd ar sicrwydd ym maes Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg.

Ar y cyd ag asesu cymwysiadau cyfrifiadurol presennol, mae archwiliadau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg yn cynnig cyngor ynghylch datblygu a gweithredu systemau newydd, a hynny er mwyn sicrhau y caiff rheolaethau mewnol eu sefydlu a’u bod yn cydymffurfio â safonau diwydiannol.  Yn rhan o hyn, rydym ni wedi cefnogi GIG Cymru wrth iddo roi sawl prosiect cenedlaethol ar waith, gan gynnwys E-financials Oracle Business Suite ac E-Expenses, a hynny trwy gynnig cyngor rheolaidd ynghylch datblygu rheolaethau ac adolygiadau porth ffurfiol.

Rydym ni hefyd yn cynnal adolygiadau penodol â’r nod o wella Rheoli Gwybodaeth a rheolaethau yn y meysydd canlynol:-

  • Rheoli Gwybodaeth e.e. cydymffurfiaeth â Deddf Diogelu Data/Deddf Rhyddid Gwybodaeth;
  • Rheoli cofnodion / Cydymffurfio o ran Gwarchodwyr Caldicott;
  • Rheoli strategol a datblygu strategaethau ar gyfer Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg;
  • Prosesau rheoli risg ym maes Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg;
  • Rheoli prosiectau ym maes Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg;
  • Diogelwch Gwybodaeth a’r Amgylchedd Rheoli TG Gyffredinol;
  • Cymwysiadau a rheolaethau systemau;
  • Rhwydweithio a’r seilwaith TG;
  • Ansawdd Data;
  • Adfer ar ôl Trychineb a Threfniadau ar gyfer Parhad Busnes;
  • Dilyn yr arfer gorau e.e. ITIL/COBIT/ISO27001 / Hanfodion Seiber;

Rydym ni hefyd yn archwilio systemau busnes critigol gan ddefnyddio Teclynnau a Dulliau Archwilio â Chymorth Cyfrifiadur. Yn ogystal, rydym ni’n darparu gwasanaeth dadansoddi data, a all helpu sefydliadau i fwrw goleuni ar ei weithrediadau trwy fagu dealltwriaeth well o risgiau ac effeithiolrwydd rheolaethau.