Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghori a Chynghori

Dau berson yn edrych ar graff mewn archwiliad mewnol

Mae Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus ar gyfer y GIG yn hwyluso archwiliadau mewnol, er mwyn darparu gwasanaeth ymgynghori annibynnol a gwrthrychol. Nod hyn yw cynorthwyo rheolwyr i wella gwaith rheoli risg, rheoli a llywodraethu sefydliadau.

Gall y gwasanaethau ymgynghori a chynghori hyn fod ar amrywiaeth o ffurfiau, a allai gynnwys:

  • cyngor a chymorth wedi eu targedu at y tîm rheoli a’r bwrdd;
  • arolygon yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ddatrysiadau mewn meysydd penodol sy’n destun pryder;
  • cynorthwyo sefydliadau i wella perfformiad a diogelu gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau;
  • mynychu a hwyluso mewn gweithdai a chyfarfodydd pwyllgor;
  • darparu arweiniad a chyngor am ddylunio rheolaethau;
  • adolygu gweithdrefnau rheoli gweithredol neu ariannol;
  • rôl ffrind beirniadol yn achos datblygu trefniadau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd.

Yn ogystal â gwasanaethu anghenion sefydliadau unigol, caiff cyfran fawr o wasanaethau ymgynghori a chynghori a ddarperir gan archwiliad mewnol eu cyfeirio tuag at gyngor ac arweiniad arbenigol ar ddatblygiadau polisi cenedlaethol, prosiectau mawr a datblygiadau systemau er lles holl GIG Cymru.

Gallai sefydliadau unigol gomisiynu gwasanaethau ymgynghori a chynghori ychwanegol ar sail ddewisol yn unol â gofynion ac anghenion lleol. Os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i’ch helpu chi ar unrhyw fater yna cysylltwch yn uniongyrchol â’ch arweinydd archwilio a enwebwyd.