Adran annibynnol, orfodol yw Archwilio Mewnol, sy’n darparu sicrwydd gwrthrychol ynghyd â gwasanaeth ymgynghori i GIG Cymru yn ei gyfanrwydd lle bo gofyn.
Ein bwriad yw helpu holl GIG Cymru i gyflwyno gwasanaeth diogel, o ansawdd uchel sydd yn canolbwyntio ar y dinesydd, trwy werthuso effeithiolrwydd systemau rheoli mewnol sy’n sail i’r ddarpariaeth gofal iechyd i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Rydym yn rhoi barn annibynnol i’r Swyddog Atebol, Pwyllgor Bwrdd ac Archwilio ym mhob sefydliad, ynglŷn â’r graddau y caiff trefniadau rheoli a llywodraethu risg eu gwreiddio er mwyn cefnogi cyflawni nodau ac amcanion sefydliad.
Mae gan ein timau Archwilio Mewnol ddyfnder profiad ym maes cyhoeddus a phreifat ac maent yn medru cyflwyno ein gwasanaethau yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg.
Mae gennym nifer sylweddol o gydweithwyr cymwysedig CMIIA/CCAB a gaiff eu cefnogi gan staff eraill cymwys a phrofiadol mewn sawl arbenigedd arall gan gynnwys PRINCE2®, sicrwydd cyfalaf a sicrwydd gwybodeg.
Rydym yn ymfalchïo ein bod yn wasanaeth lleol, sy’n ateb gofynion ein cleientiaid ac mae gennym swyddfeydd ar hyd a lled Cymru.
Rydym ni’n cydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus ar gyfer y GIG gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg a chan ddefnyddio Fframweithiau Sicrwydd y sefydliad. Trwy wneud hyn, rydym ni’n dod â risgiau a diffygion sicrwydd ynghyd y gallant danseilio gallu’r sefydliad i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol a’i nodau/amcanion strategol diffiniedig. O weithredu fel hyn, rydym ni’n canolbwyntio adnoddau ar y meysydd hynny sy’n peri’r risg fwyaf.
Rydym ni’n datblygu’r Cynllun Archwilio gan ddilyn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus - Safon 2010 (Cynllunio) - a hynny er mwyn galluogi Pennaeth Archwilio Mewnol i ddarparu gwasanaethau archwilio mewnol mewn modd sy’n hwyluso’r canlynol:
Bydd y cynlluniau archwilio mewnol yn cynnwys, o leiaf, meysydd sicrwydd mandadol cylchoedd ariannol craidd; Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd; Modiwl Llywodraethu ac Atebolrwydd a safon a ddiffiniwyd ar gyfer cydymffurfio â rheoli hawliadau cyfreithiol Cronfa Risg Cymru.
Er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn ymwybodol o risgiau, rydym yn darparu adroddiadau datblygu i’r Pwyllgor Archwilio sydd yn cydymffurfio â’r Llawlyfr Pwyllgor Archwilio a Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, yn rhoi manylion am y sicrwydd a ddarperir ar arolygon gosod a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar ddatblygiad rheoli wrth weithredu argymhellion y cytunwyd arnynt yn flaenorol.
Gan ein bod yn rhan o GIG Cymru, rydym ni’n ymroddedig i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bob sefydliad. O ganlyniad, byddwn ni’n cwrdd â’r Cyfarwyddwr enwebedig sy’n gyfrifol am y gwasanaeth yn rheolaidd, ynghyd â mynychu cyfarfodydd Ysgrifenyddion Bwrdd Cymru gyfan a chyfarfodydd Cadeiryddion Pwyllgor Cymorth Cymru gyfan.