Mae rheolaethau ym maes Rheoli Gwybodaeth, ynghyd â rheolaethau a phrosesau ym maes TG, yn hanfodol i’r gwaith o ddiogelu asedau a chynnal diogelwch data ynghyd ag uniondeb ac effeithiolrwydd gweithredol sefydliad.
Mae gennym dîm o weithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau QiCA a CISA, a all gynnig cyngor ar bob agwedd ar sicrwydd ym maes Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg.
Ar y cyd ag asesu cymwysiadau cyfrifiadurol presennol, mae archwiliadau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg yn cynnig cyngor ynghylch datblygu a gweithredu systemau newydd, a hynny er mwyn sicrhau y caiff rheolaethau mewnol eu sefydlu a’u bod yn cydymffurfio â safonau diwydiannol. Yn rhan o hyn, rydym ni wedi cefnogi GIG Cymru wrth iddo roi sawl prosiect cenedlaethol ar waith, gan gynnwys E-financials Oracle Business Suite ac E-Expenses, a hynny trwy gynnig cyngor rheolaidd ynghylch datblygu rheolaethau ac adolygiadau porth ffurfiol.
Rydym ni hefyd yn cynnal adolygiadau penodol â’r nod o wella Rheoli Gwybodaeth a rheolaethau yn y meysydd canlynol:-
Rydym ni hefyd yn archwilio systemau busnes critigol gan ddefnyddio Teclynnau a Dulliau Archwilio â Chymorth Cyfrifiadur. Yn ogystal, rydym ni’n darparu gwasanaeth dadansoddi data, a all helpu sefydliadau i fwrw goleuni ar ei weithrediadau trwy fagu dealltwriaeth well o risgiau ac effeithiolrwydd rheolaethau.