Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Adnoddau Caffael Cynaliadwy
Amlinellir ein nodau a’n hymrwymiad yn ein Polisi Caffael Cynaliadwy, sy’n esbonio sut y byddwn yn mynd i’r afael â chynaliadwyedd trwy ein gweithgareddau a gweithgareddau ein cadwyn gyflenwi.
Casgliad o adnoddau ac offer yw Cynlluniwr Siwrnai Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer gorau ym maes caffael yng Nghymru.
Mae’r Cynllun Masnachu Moesegol yn gynghrair flaenllaw o gwmnïau, undebau llafur a chyrff anllywodraethol sy’n hyrwyddo parch at hawliau gweithwyr ledled y byd. Gwefan y Cynllun Masnachu Moesegol
Mae Swyddfa Masnach y Llywodraeth yn darparu ystod o wybodaeth ddefnyddiol ar arfer gorau ym maes caffael cynaliadwy. Offer Caffael Cynaliadwy
Mae The Centre For Evidence Based Purchasing (CEP) wedi datblygu offeryn a fydd yn galluogi sefydliadau i nodi costau egni blynyddol a chostau oes gyfan cyfarpar electronig meddygol. Adroddiadau ar gostau oes gyfan cyfarpar meddygol
Siarter Agor Drysau – dyma siarter Llywodraeth Cymru, sy’n addas ar gyfer busnesau bach a chanolig ac sy’n amlinellu nodau’r sectorau cyhoeddus o ran gweithio gyda mentrau bach a chanolig. Dolen i Siarter Agor Drysau Llywodraeth Cymru