Neidio i'r prif gynnwy

Cyflogaeth foesegol ac Adroddiadau TISC (Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi)

Ethical Employment

Mae’r Cod Ymarfer hwn wedi ei lunio gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi mwy moesegol i ddarparu contractau i sector cyhoeddus Cymru a sefydliadau trydydd sector sy’n derbyn arian cyhoeddus.

Mae tystiolaeth yn dangos bod arferion cyflogaeth anfoesegol ar waith mewn cadwyni cyflenwi ledled Cymru a thu hwnt.

Nod y Cod Ymarfer yw sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus wedi eu cyflogi yn foesegol ac mewn modd sy’n cydymffurfio â llythyren ac ysbryd deddfau’r DU a’r UE a deddfau rhyngwladol.

Mae’r cod yn mynd i’r afael â’r materion cyflogaeth canlynol:

  • Caethwasiaeth fodern a sathru ar hawliau dynol.
  • Hunangyflogaeth ffug, defnydd annheg o gynlluniau ymbarél a chontractau dim oriau.
  • Talu’r Cyflog Byw.

Adroddiadau TISC (Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi)

Mae hon yn gronfa ddata ganolog sy’n rhoi mynediad i “Ddatganiadau ar Gaethwasiaeth Fodern” a gyflwynwyd gan gyflenwyr. I’w defnyddio’n rhan o’r broses dendro.
 
Mae datganiadau ac adroddiadau gwrth-gaethwasiaeth TISC ar gael gan David Ball est. 029 2090 3852 david.ball@wales.nhs.uk
 
Rhowch enw’r cyflenwr a rhifau ffôn y busnesau ar ffurf rhestr.
 

Dolen(ni) defnyddiol a dogfennau pwysig:

 
 
Mae hon yn ddolen i fideo hynod addysgiadol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n esbonio’r cod ymarfer: