Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ag Asesiadau Risg Cynaliadwyedd

Sustainable Risk Assessment Support

Mae polisi caffael GIG Cymru a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog sefydliadau iechyd yn mynnu y caiff asesiadau risg cynaliadwyedd eu cynnal ar bob contract sydd â gwerth uwch na £25k. Bydd yr asesiad risg cynaliadwyedd yn nodi’r cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi i fynd i’r afael ag effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn sgil y gwasanaethau a’r nwyddau sy’n cael eu cyflenwi i GIG Cymru. Byddwn yn defnyddio allbynnau’r asesiadau risg cynaliadwyedd i gefnogi ac ysgogi arloesedd, a fydd yn darparu datrysiadau cynaliadwy ac yn lleihau faint o adnoddau a gaiff ei dreulio trwy weithio gyda’n cadwyn gyflenwi, yn ogystal â’i hyrwyddo

 

Asesiad Cyfleoedd Cynaliadwyedd

Bydd y ddogfen hon yn annog staff caffael i ystyried agweddau cynaliadwyedd ehangach wrth iddynt gwblhau’r broses o gynllunio contractau.

 

Cwestiynau technegol - Cynaliadwyedd

Dyma enghraifft o fethodoleg sgorio seiliedig ar hyder er mwyn asesu cynaliadwyedd cais tendro’r cyflenwr. Mae’r enghraifft hon yn ymwneud â bwyd ond gellir ei haddasu i’ch cynnyrch neu gategori.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dau dempled ar gyfer yr Asesiadau Risg Cynaliadwyedd – un ar gyfer darparu nwyddau ac un arall ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae’r ddau dempled ar gael trwy ddilyn y ddolen hon: Asesiadau Risg Cynaliadwyedd ar gyfer Nwyddau a Gwasanaethau