Neidio i'r prif gynnwy

Buddion Cymunedol

Community Benefits

Sicrhau’r gwerth mwyaf posibl ar gyfer y bunt Gymreig. Ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, caiff buddsoddiad sylweddol ei wneud bob blwyddyn trwy gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith allanol. Mae Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach a rhanddeiliaid pwysig eraill yn mynd ati’n barhaus i chwilio am ffyrdd y gellir sicrhau’r gwerth mwyaf o’r buddsoddiad hwn, ac un o’r prif nodau fu rhoi budd i gymunedau lleol trwy ein gweithgarwch caffael.

Mae caffael cynaliadwy yn aml yn gysylltiedig â materion amgylcheddol yn bennaf, ond bellach mae pwyslais ar fynd i’r afael â’r materion cymdeithasol ac economaidd. Trwy gynnwys ‘buddion cymunedol’ neu ‘ofynion cymdeithasol’ ym maes caffael y sector cyhoeddus, rydym yn sicrhau y caiff materion cymdeithasol ac economaidd ehangach eu hystyried wrth dendro contractau adeiladu, gwasanaethau neu gyflenwadau.

Nod y canllaw hwn yw helpu’r rheiny sy’n gwneud cynnig am gontractau cyhoeddus i ddeall ystyr ‘buddion cymunedol’ a chynnig gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i’ch helpu a’ch cefnogi wrth eu sicrhau.

Trwy ddilyn y ddolen ganlynol, gellir dod o hyd i ddogfennau canllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgorffori buddion cymunedol a chrynodeb o’r canllaw yn y gweithdrefnau caffael.

Canllaw ar fuddion cymunedol