Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr Cyflawnwyr Meddygol Cymru Gyfan a Chofrestr Meddygon Locwm Cymru Gyfan

All Wales Medical Performers List

Croeso i Restr Cyflawnwyr Meddygol Cymru Gyfan a’r Gofrestr Meddygon Locwm i Gymru Gyfan

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol baratoi a chyhoeddi Rhestr Cyflawnwyr Meddygol o’r holl feddygon teulu y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi’u cymeradwyo at ddibenion cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol.  Nid yw meddyg teulu yn gymwys i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol oni bai bod ei enw wedi’i gynnwys ar y rhestr cyflawnwyr meddygol. 

Mae’r dudalen hon yn darparu manylion yr holl feddygon teulu a meddygon teulu locwm sydd:

  • wedi’u cofrestru ar y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol ac yn gymwys i weithio mewn practisiau meddyg teulu yng Nghymru – (Nodyn 1)
  • wedi’u cofrestru ar y Gofrestr Meddygon Locwm i Gymru Gyfan (sefydlwyd ar 1 Ebrill 2019) 
  • wedi’u cofrestru ar y cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (sefydlwyd ar 1 Ebrill 2019) – (Nodyn 2) 

(NODYN 1:  Mae'n ofynnol i feddygon teulu a restrir yn Lloegr wneud cais i ymuno â rhestr Cymru i weithio yng Nghymru; mae'r un peth yn berthnasol yn Lloegr) 

(NODYN 2: Bydd y chwiliad yn dangos meddygon teulu locwm yn unig. Bydd meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n cael eu cyflogi mewn practisiau meddyg teulu a/neu drwy drefniadau clwstwr Gofal Sylfaenol i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol y GIG yn cael eu cynnwys gan yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol yn awtomatig)

Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â’r Rhestr Cyflawnwyr Meddygol a/neu na allwch chi ddod o hyd i feddyg teulu penodol ar y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol, cysylltwch ât nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth. 

Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â’r Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol, cysylltwch â NWSSP.PrimaryCareWNWRS@wales.nhs.uk

Mae rhestr lawn o'n dogfennau i'w gweld yma.

Chwilio Rhestr o Gyflawnwyr

Rhif Cofrestru Enw Math Bwrdd Iechyd Dyddiad Cymeradwyo'r MPL Statws Presennol AWLR Locwm Locwm GMPI