Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud cais i gael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol

Apply for Inclusion in the Medical Performers List

1. Arweiniad

Mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen MPL 1 os ydych chi am gael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes wedi’ch cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol yn y DU, cwblhewch ffurflen MPL 4A.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y canllawiau cyn cwblhau’r ffurflen gais hon:

  • Canllawiau ar gyfer meddygon sy’n gwneud cais am gael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol.
  • Canllawiau ar gyfer meddygon sydd eisoes wedi eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol Sefydliad Gofal Sylfaenol yn y DU.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais yng ngham tri y broses.

Noder y gall meddygon sy’n gwneud cais i gael eu cynnwys ar Restr Meddygon Fferyllol (neu sy’n gwneud cais i’w diwygio) gael gafael ar y ffurflenni priodol ar wefan y Rhestr Fferyllol / Gwasanaethau Fferyllol

 

Angen cymorth?

Cysylltwch â’n Tîm Rheoli Contractau: -

Ymuno yng Ngogledd Cymru - 01495 30 0783

Ymuno yn Ne-ddwyrain Cymru - 01495 30 0739

Ymuno yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru - 01495 30 0776 

E-bostnwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk

Os ydych wedi’ch cynnwys ar y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol ar hyn o bryd ac mae angen i chi newid eich statws ar y rhestr, neu os ydych chi’n ymuno/symud i bractis newydd/gwahanol o fewn yr un bwrdd iechyd, cwblhewch a chyflwynwch ffurflen Newid Statws

 

Dolenni defnyddiol

- Cynllun Pensiwn y GIG

 

Gwybodaeth Ddefnyddiol

DBS Video Checking Service

Fideo DBS – Gwasanaeth Gwirio (Cymraeg)

- Medical Performers List Flier

- Taflen Rhestr Cyflawnwyr Meddygol (Cymraeg)

 

Hysbysiad Diogelu Data

Mae deddfwriaeth i ddiogelu data yn diogelu’r wybodaeth bersonol yr ydych wedi ei darparu ar y Ffurflen Gais hon.  Mae Cytundeb Cyfrinachedd, hyfforddiant cynhwysfawr a phrotocolau Llywodraethu Gwybodaeth penodol yn berthnasol i bob aelod o staff a fydd yn prosesu’ch gwybodaeth. Caiff y broses hon ei chwblhau mewn modd teg a chyfreithlon, a dim ond staff y mae angen iddynt weld eich gwybodaeth at ddibenion cyfreithlon a fydd yn ei gweld.  Ni fydd eich gwybodaeth bersonol ond yn cael ei defnyddio at y dibenion y mae angen ei defnyddio, a bydd y dibenion hyn yn cyd-fynd â’ch disgwyliadau.

Ni fyddwn yn rhoi’ch manylion personol i unrhyw sefydliad arall yn fwriadol at unrhyw ddibenion heb gael eich caniatâd diamwys, oni bai bod rheswm cyfiawn a chyfreithlon dros wneud hynny.  Fodd bynnag, byddwch yn cael gwybod am hyn cyn gynted â phosibl.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am gyfrinachedd yr wybodaeth a ddarparoch chi, cysylltwch â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru trwy ffonio 02920 902272, neu drwy e-bostio nwsspinformationgovernance@wales.nhs.uk neu gallwch ymweld â https://nwssp.nhs.wales/about-us/information-governance/

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Mae’n ofynnol i chi gwblhau gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd fel rhan o’r broses ymgeisio. Cyn cwblhau ffurflen DBS ar-lein, mae’n bwysig eich bod yn darllen y canllawiau o’r enw Completing the On-Line Disclosure and Barring Service Application Form oherwydd bod y nodiadau hyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y cyfrineiriau a’r codau sydd eu hangen i gwblhau’r ffurflen.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen ar-lein bydd angen i chi wneud apwyntiad am gyfweliad wyneb yn wyneb fel y gall swyddog awdurdodedig ddilysu eich dogfennau a’ch cais ar-lein. Gellir cynnal cyfweliad wyneb yn wyneb trwy gyswllt fideo ar yr amod bod y swyddog awdurdodedig wedi derbyn eich dogfennau gwreiddiol. Rhaid i’r cyfweliad wyneb yn wyneb gael ei gynnal o fewn tri mis o gwblhau eich ffurflen DBS ar-lein. Os na fyddwch yn cael eich cyfweld o fewn tri mis, byddwn yn cymryd eich bod wedi tynnu eich cais yn ôl a byddwn yn cael gwared ar eich ffurflen ar-lein o’r gronfa ddata.

Sicrhewch eich bod yn gwneud nodyn o’r cyfeirnod (caiff ei roi i chi ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen), oherwydd bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb. Gallwch drefnu apwyntiad drwy e-bostio nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk neu drwy ffonio eich swyddfa Gwasanaethau Gofal Sylfaenol PCGC agosaf

Noder na fyddwch yn gallu cael eich cynnwys ar Restr Offthalmig neu Restr Offthalmig Atodol hyd nes ein bod wedi gweld eich tystysgrif DBS fanylach er mwyn cadarnhau bod unrhyw wybodaeth a ddarparoch yn foddhaol. Noder nad yw meddu ar gofnod troseddol o reidrwydd yn rhwystr rhag cael eich cynnwys ar Restr Offthalmig/Atodol Bwrdd Iechyd.

Gallwch ddod o hyd i ffurflen gais DBS ar-lein trwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://disclosure.capitarvs.co.uk/cheqs/.

Os oes angen cymorth pellach arnoch ynglŷn â chwblhau'r ffurflen gais DBS ar-lein, cysylltwch â ni drwy ffonio: 01495 300739/300776 neu drwy anfon e-bost at: nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk

 

3. Ffurflen Gais

Rhaid i chi gwblhau’r canlynol:

  • Ffurflen MPL 1 (os ydych chi am gael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol) neu
  • Ffurflen MPL 4A (os ydych eisoes wedi cael eich cynnwys ar Restr Cyflawnwyr yn y DU)

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y canllawiau priodol cyn cwblhau’r ffurflen gais hon:

  • Canllawiau ar gyfer meddygon sy’n gwneud cais am gael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol
  • Canllawiau for ar gyfer meddygon sydd eisoes wedi eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol Sefydliad Gofal Sylfaenol yn y DU

4. Arolwg

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi adborth ar y broses o wneud cais fel y gallwn wella ein gwasanaeth.

Cymerwch funud i gwblhau ein holiadur.

Diolch am ddefnyddio’r broses gwneud cais ar-lein.