Neidio i'r prif gynnwy

Chwiliad y Rhestr Offthalmig a'r Rhestr Offthalmig Atodol

Ophthalmic and Supplementary Ophthalmic List Search

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol baratoi a chyhoeddi rhestr offthalmig a rhestr atodol o'r holl ymarferwyr a gymeradwywyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.  Nid yw ymarferydd offthalmig yn gymwys i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, oni bai bod ei enw wedi'i gynnwys ar restr offthalmig neu restr atodol.  Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i optegwyr offthalmig, ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr cyn gofrestru a restrir yn Lloegr wneud cais i ymuno â rhestr Cymru i weithio yng Nghymru ac mae'r un peth yn berthnasol yn Lloegr.

Nid oes angen cynnwys optegwyr cyflenwi ar restr offthalmig neu restr atodol yng Nghymru er mwyn darparu gwasanaethau cyflenwi yng Nghymru.

Sylwch: Os na allwch ddod o hyd i optegydd penodol ar y rhestr, cysylltwch â

nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth.