Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud cais am gael eich cynnwys ar y Rhestr Offthalmig a'r Rhestr Offthalmig Atodol

Apply for Inclusion in the Ophthalmic & Supplementary Ophthalmic Lists

1. Arweiniad

Rhaid i chi gwblhau ffurflen gais OPL1 os hoffech gael eich cynnwys ar y Rhestr Offthalmig neu’r Rhestr Offthalmig Atodol.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y canllawiau cyn cwblhau’r ffurflen gais.

Gellir lawrlwytho’r ffurflen yng ngham tri y broses o wneud cais. Mae wedi ei llunio i’w chwblhau ar feddalwedd prosesu geiriau cyn argraffu copi i’w lofnodi a’i gyflwyno.

 

Angen cymorth?

Cysylltwch â’n Tîm Rheoli Contractau:

Gogledd Cymru – 01495 300781

De-ddwyrain Cymru – 01495 300739

Canolbarth a Gorllewin Cymru – 01495 300776

 

E-bostnwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk

Hysbysiad Diogelu Data

Mae deddfwriaeth i ddiogelu data yn diogelu’r wybodaeth bersonol yr ydych wedi ei darparu ar y Ffurflen Gais hon.  Mae Cytundeb Cyfrinachedd, hyfforddiant cynhwysfawr a phrotocolau Llywodraethu Gwybodaeth penodol yn berthnasol i bob aelod o staff a fydd yn prosesu’ch gwybodaeth. Caiff y broses hon ei chwblhau mewn modd teg a chyfreithlon, a dim ond staff y mae angen iddynt weld eich gwybodaeth at ddibenion cyfreithlon a fydd yn ei gweld.  Ni fydd eich gwybodaeth bersonol ond yn cael ei defnyddio at y dibenion y mae angen ei defnyddio, a bydd y dibenion hyn yn cyd-fynd â’ch disgwyliadau.

Ni fyddwn yn rhoi’ch manylion personol i unrhyw sefydliad arall yn fwriadol at unrhyw ddibenion heb gael eich caniatâd diamwys, oni bai bod rheswm cyfiawn a chyfreithlon dros wneud hynny.  Fodd bynnag, byddwch yn cael gwybod am hyn cyn gynted â phosibl.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am gyfrinachedd yr wybodaeth a ddarparoch chi, cysylltwch â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru trwy ffonio 02920 902272, neu drwy e-bostio nwsspinformationgovernance@wales.nhs.uk neu gallwch ymweld â https://nwssp.nhs.wales/about-us/information-governance/

2. Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Fel rhan o’r broses o wneud cais, bydd angen i chi gwblhau gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Cyn cwblhau’r ffurflen DBS ar-lein, argymhellir eich bod yn darllen y canllawiau o’r enw; Completing the On-Line Disclosure and Barring Service Application Form oherwydd bod y nodiadau hyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y cyfrineiriau a’r codau sydd eu hangen i gwblhau’r ffurflen.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen ar-lein bydd angen i chi wneud apwyntiad am gyfweliad wyneb yn wyneb fel y gall swyddog awdurdodedig ddilysu eich dogfennau a’ch cais ar-lein. Gellir cynnal cyfweliad wyneb yn wyneb trwy gyswllt fideo ar yr amod bod y swyddog awdurdodedig wedi derbyn eich dogfennau gwreiddiol. Rhaid i’r cyfweliad wyneb yn wyneb gael ei gynnal o fewn tri mis o gwblhau eich ffurflen DBS ar-lein. Os na fyddwch yn cael eich cyfweld o fewn tri mis, byddwn yn cymryd eich bod wedi tynnu eich cais yn ôl a byddwn yn cael gwared ar eich ffurflen ar-lein o’r gronfa ddata.

Sicrhewch eich bod yn gwneud nodyn o’r cyfeirnod (caiff ei roi i chi ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen), oherwydd bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb. Gallwch drefnu apwyntiad drwy e-bostio nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk neu drwy ffonio eich Gwasanaethau Gofal Sylfaenol PCGC agosaf

Noder na fyddwch yn gallu cael eich cynnwys ar Restr Offthalmig neu Restr Offthalmig Atodol hyd nes ein bod wedi gweld eich tystysgrif DBS fanylach er mwyn cadarnhau bod unrhyw wybodaeth a ddarparoch yn foddhaol. Noder nad yw meddu ar gofnod troseddol o reidrwydd yn rhwystr rhag cael eich cynnwys ar Restr Offthalmig/Atodol Bwrdd Iechyd.

Gallwch ddod o hyd i ffurflen gais DBS ar-lein trwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://disclosure.capitarvs.co.uk/cheqs/.

Os oes angen cymorth pellach arnoch ynglŷn â chwblhau'r ffurflen gais DBS ar-lein, cysylltwch â ni drwy ffonio: 01495 300739/300776 neu drwy anfon e-bost at nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk

 

3. Ffurflen Gais

Cwblhewch y ffurflen gais OPL1 yna dylech ei hargraffu a’i llofnodi cyn ei hanfon at y cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y; canllawiau cyn cwblhau’r ffurflen gais hon: