Mae Uned Gwasanaethau Presgripsiynu yn gyfrifol am ad-dalu a thalu’r holl gontractwyr presgripsiynu sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru. Telir am y cyffuriau a bresgripsiynir ar FP10.
Mae’r Tariff Cyffuriau yn pennu’r hyn a gaiff ei dalu i gontractwyr am y gwasanaethau maent yn eu darparu. Mae hyn yn cynnwys ad-dalu (costau’r cyffuriau, dyfeisiau a.y.y.b.) a thalu (ffioedd, lwfansau a.y.y.b.). Caiff y cyfanswm ei dalu bob mis a gall amrywio yn dibynnu ar y math o gontractiwr presgripsiynu.
Mae’r adroddiad PD1 yn darparu data ystadegol yn ymwneud â’r presgripsiynau a roddir yng Nghymru sydd wedi eu casglu gan bob math o gontractiwr presgripsiynu ar gyfer pob Bwrdd Iechyd lleol.
Mae’r dogfennau sydd wedi eu rhestru isod yn cynnwys y saith adroddiad ar gyfer pob mis.
Am ddisgrifiad manwl o’r adroddiadau gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr yn yr adran Dogfennau Allweddol.