Neidio i'r prif gynnwy

Data Presgripsiynu'r Fferyllfa/Practis

Pharmacy Practice Dispensing Data

Mae’r adroddiad hwn yn dangos:

  1. nifer y presgripsiynau a roddir gan bob fferyllfa gymunedol yng Nghymru yn ôl y practisiau meddyg teulu a gyflwynodd y presgripsiynau
  2. nifer y presgripsiynau sy’n cael eu rhoi ymhob practis meddyg teulu yng Nghymru yn ôl y fferyllfa a roddodd yr eitemau hynny

Bydd data yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis (yn dechrau ar Ebrill 2015) ac ar gael am y flwyddyn ariannol bresennol a’r ddwy flynedd ariannol gyflawn.

Bob mis, bydd taenlen sy’n cynnwys pedair tudalen o wybodaeth ar gael fel y nodir isod.

 

Cyfeiriadau Contractwyr

Mae’r rhain yn dangos enw a chyfeiriad pob fferyllfa sydd wedi rhoi presgripsiynau’r GIG yn ystod y mis perthnasol.
 
 

Cyfeiriadau Practisiau

Mae’r rhain yn dangos enw a chyfeiriad pob practis sydd wedi cyflwyno presgripsiynau’r GIG yn ystod y mis perthnasol.
 
 

Fferyllfa yn ôl Practis CCYYMM

Ar gyfer pob fferyllfa, mae’r set ddata hon yn cynnwys nifer y presgripsiynau sy’n cael eu rhoi yn ôl y practis meddyg teulu a gyflwynodd y presgripsiynau.

Mae’r set ddata hefyd yn cynnwys cyfanswm nifer y presgripsiynau na ddaethant o bractis meddyg teulu yng Nghymru, gan gynnwys presgripsiynau ysbyty, presgripsiynau deintyddol neu bresgripsiynau o Loegr.

 

Practis yn ôl Fferyllfa CCYYMM

Ar gyfer pob practis meddyg teulu, mae’r set ddata hon yn cynnwys cyfanswm nifer y presgripsiynau yn ôl fferyllfa a roddodd y presgripsiynau hynny.
 

The dataset also includes the total number of prescriptions that were not dispensed in a pharmacy, including those dispensed by Dispensing Doctors, those that were personally administered in a GP practice and those that were dispensed in England.