Neidio i'r prif gynnwy

Casglu Data Presgripsiynau Practisiau Cyffredinol

General Practice Prescribing Data Extract

O fis Ebrill 2013, bydd data presgripsiynau practisiau cyffredinol ar gael yn ystod ymgynghoriad. Caiff y wybodaeth ei chasglu o’n systemau gwybodaeth yn ymwneud â phresgripsiynu a rhoi presgripsiynau.

Mae’r data yn cynnwys presgripsiynau sy’n cael eu presgripsiynu gan feddygon teulu (ymarferwyr meddygol cyffredinol) a phresgripsiynwyr anfeddygol sydd wedi presgripsiynu ar ran y practis meddyg teulu, sydd wedyn yn cael eu darparu yn y gymuned yng Nghymru neu yn Lloegr. Mae’r data yn cynnwys yr holl feddyginiaethau, gorchuddion a dyfeisiau a bresgripsiynir bob mis. Os na fydd claf yn mynd â phresgripsiwn i’r fferyllfa, ni fydd y wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y set ddata.

Nid yw’r data yn cynnwys presgripsiynau preifat.

Bydd data yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis a bydd ar gael am y flwyddyn ariannol bresennol a’r ddwy flynedd ariannol gyflawn. Bydd pob ffeil gywasgedig yn cynnwys tair ffeil unigol y gellir eu gweld mewn rhaglenni fel Microsoft WordPad. Oherwydd nifer y rhesi yn ffeil ddata’r meddygon teulu, ni fydd yn bosibl ei hagor drwy ddefnyddio Microsoft Excel.

Mae angen dehongli data presgripsiynu yn ofalus iawn ac ni ddylid eu defnyddio ar wahân.

Bob mis, bydd ffeil gywasgedig yn cynnwys y tair ffeil ar gael i’w lawrlwytho.

 

GPDataFileCCYYMM

Dyma’r brif ffeil ddata sy’n cynnwys pob presgripsiwn a roddwyd yn ystod ymgynghoriad. Mae’r dosbarth BNF (15 o nodau) wedi ei gynnwys.

 

ChemSubstance

Mae hwn yn darparu’r sylwedd cemegol drwy ddefnyddio 9 nod cyntaf y cod BNF sydd wedi ei gynnwys ym mhrif ffeil ddata’r meddyg teulu.  

 

Ffeil Cyfeiriadau

Bydd y ffeil hon yn darparu enw a chyfeiriad pob practis ynghyd â manylion am y Byrddau Iechyd a’r cyffiniau.

Mae’r data ar gael i’w defnyddio a’u hailddefnyddio o dan Drwydded Llywodraeth Agored. Sicrhewch eich bod yn deall telerau’r drwydded hon cyn defnyddio’n data ni. 
 
Edrychwch ar y dogfennau isod i ddod o hyd i wybodaeth am y ffeiliau unigol.