Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Mae’r adroddiad hwn yn dangos:
Bydd data yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis (yn dechrau ar Ebrill 2015) ac ar gael am y flwyddyn ariannol bresennol a’r ddwy flynedd ariannol gyflawn.
Bob mis, bydd taenlen sy’n cynnwys pedair tudalen o wybodaeth ar gael fel y nodir isod.
Ar gyfer pob fferyllfa, mae’r set ddata hon yn cynnwys nifer y presgripsiynau sy’n cael eu rhoi yn ôl y practis meddyg teulu a gyflwynodd y presgripsiynau.
Mae’r set ddata hefyd yn cynnwys cyfanswm nifer y presgripsiynau na ddaethant o bractis meddyg teulu yng Nghymru, gan gynnwys presgripsiynau ysbyty, presgripsiynau deintyddol neu bresgripsiynau o Loegr.