Mae'r Dangosfwrdd Gwasanaethau Estynedig Fferylliaeth yn darparu delweddiadau data o wybodaeth a gafwyd o hawliadau am wasanaethau estynedig Fferylliaeth dros gyfnod treigl o 24 mis.
Bydd data'n cael eu hadnewyddu ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis. Gweler y Nodiadau Esboniadol am ragor o wybodaeth.
Bob mis bydd ffeil zip sy'n cynnwys tair taenlen yn cael ei uwchlwytho i'r adran ddogfennau isod. Bydd data yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis (gan ddechrau gyda dosbarthu mis Ebrill 2015) a bydd ar gael am y flwyddyn ariannol bresennol a dwy flynedd ariannol gyflawn. Mae'r taenlenni'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol: -
CCYYMM_Dispensing Information Chemist
Cyfanswm nifer y presgripsiynau ar gyfer pob fferyllfa yn y gymuned, gyda ffioedd presgripsiynu cysylltiedig ac amrywiaeth o wybodaeth am Wasanaethau Estynedig Fferylliaeth, gan gynnwys hawliadau Adolygu’r Defnydd o Feddyginiaethau (MUR), Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau (DMR), Addysg, Iechyd a Gofal (EHC) a hawliadau rhoi’r gorau i ysmygu.
CCYYMM_Dispensing Information Appliances
Nifer y presgripsiynau a gyflwynwyd gan bob contractiwr presgripsiynau dyfeisiau yng Nghymru.
CCYYMM_Dispensing Information Doctor
Nifer y presgripsiynau a gyflwynwyd gan bob practis meddyg teulu sy’n presgripsiynu a phob practis meddyg teulu sy’n gweini meddyginiaethau yn bersonol yng Nghymru.