Neidio i'r prif gynnwy

Dilysu ar ôl Talu

Post Payment Verification (PPV)

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau dilysu ar ôl talu ar ran Byrddau Iechyd ledled Cymru. Mae timau dilysu ar ôl talu yn cwblhau gwiriadau dilysu ar ôl talu mewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Gwasanaethau Offthalmig a Fferylliaeth yn y Gymuned.

Diben y broses dilysu ar ôl talu yw rhoi sicrwydd i Fyrddau Iechyd bod yr hawliadau am daliadau a wnaed gan gontractwyr gofal sylfaenol yn briodol a bod y gwaith o ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r diffiniad ym manyleb gwasanaeth y GIG a deddfwriaeth berthnasol.

Mae’r tîm dilysu ar ôl talu hefyd yn rheoli’r rhaglen Archwiliadau Rheoli Gwastraff ar ran Byrddau Iechyd, a hynny drwy gynnig cyngor a chymorth i bractisiau meddyg teulu a fferyllfeydd yn y gymuned mewn perthynas â rheoli gwastraff.

Gweler isod restr o gwestiynau cyffredin a chanllawiau a gasglwyd er mwyn gweld rhai o gamgymeriadau mwyaf cyffredin y broses dilysu ar ôl talu a’r rhaglen Archwiliadau Rheoli Gwastraff.

Mae rhestr lawn o'n dogfennau i'w gweld yma.