Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn am Fynediad i Gofnodion Iechyd

Health Records

Gofyn am Fynediad i Gofnodion Iechyd

Er mwyn cael mynediad at gofnodion iechyd meddygon teulu ar gyfer unigolyn sy'n anghofrestredig neu wedi marw, bydd angen i chi gwblhau un o'r ceisiadau isod a'i gyflwyno, ynghyd â chopïau o'ch dogfennau adnabod, i'r cyfeiriad canlynol;
Adran Mynediad at Gofnodion, PCGC
Tŷ Cwmbrân,
Ystad Parc Mamhilad
Pont-y-pŵl
NP4 0XS
 
Gallwch hefyd e-bostio eich cais i; nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk
 
Os ydych yn gwneud y cais fel cynrychiolydd cyfreithiol unigolyn, bydd angen i chi ddarparu awdurdodiad wedi’i lofnodi a’i ddyddio i chi weithredu ar ei ran.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch chi ein ffonio ni ar; 01495 300730
 

Amserlenni a Phrosesu

Mae gennym 40 diwrnod calendr ar ôl derbyn cais wedi'i gwblhau'n llawn i ddarparu copïau o gofnod meddyg teulu cleifion ymadawedig i chi. Mewn rhai achosion, efallai na fydd hyn yn bosibl oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth (er enghraifft, lle mae'r cofnod yn cael ei gludo o'r practis meddyg teulu ar y pryd). Byddwn yn diweddaru'r ymgeisydd ar hynt ei gais os felly.
 
Mae gennym 30 diwrnod calendr ar ôl derbyn cais wedi'i gwblhau'n llawn i ddarparu copïau o gofnod meddyg teulu cleifion anghofrestredig i chi.
 
Sylwch, rydym yn prosesu ceisiadau am gofnodion cleifion a oedd wedi'u cofrestru ynghynt yng Nghymru yn unig.
 
Bydd angen i chi gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Ysbyty berthnasol ar gyfer cofnodion ysbyty.