Yn ystod pandemig Coronafeirws mae angen i'r GIG fod yn fwy gwyliadwrus byth oherwydd bod risg twyll yn cynyddu. Mae Awdurdod Atal Twyll y GIG (NHS CFA) wedi cyhoeddi canllawiau ar ba gamau y gall y GIG a'r cyhoedd eu cymryd i liniaru risg twyll. Gellir gweld y canllawiau ar wefan NHS CFA https://cfa.nhs.uk.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Cafodd Kimberley Wilson, cyn-Reolwr Practis Meddyg Teulu, ei dedfrydu i 2 flynedd o garchar, wedi'i ohirio am 2 flynedd, 25 diwrnod o adsefydlu a 200 awr o waith di-dâl yn Llys y Goron Abertawe wedi iddi gyfaddef dwyn £49,213.08 o Bractis Meddyg Teulu Castell-nedd, er ei budd personol ei hun. Gorchmynnwyd i Kimberley Wilson ad-dalu swm o £25,000 i'w chyn-gyflogwr.
Cafodd yr achos ei ddwyn gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru a ymchwiliodd i Wilson ar ôl i gyfrifwyr y practis godi amheuon.
Darganfuwyd bod Wilson yn defnyddio cyfrif banc busnes y practis i brynu nwyddau iddi hi ei hun ac yn trosglwyddo arian i'w chyfrif personol, o dan y cyfeiriadau “arian mân” neu “blaendal”.
Cafodd ymchwilydd ariannol Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru orchymyn cynhyrchu o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 a roddodd fynediad i gyfrifon banc Wilson. Profodd hyn ganfyddiadau'r cyfrifwyr.
Canfuwyd yn ddiweddarach fod Wilson wedi gwario'r rhan fwyaf o'r arian ar ei threuliau dyddiol ac i ariannu ei harferion gamblo.
Roedd hi'n gweithio yn y practis o fis Ebrill 2019 tan fis Mawrth 2023 pan gafodd ei diswyddo am gamymddwyn difrifol.
Fis Mai 2024, yn Llys Ynadon Abertawe, plediodd yn euog i un cyhuddiad o Dwyll drwy gamddefnyddio ei rôl.
Dywedodd Emily Thompson, Arbenigwr Gwrth-dwyll yng Ngwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru "Camddefnyddiodd Wilson ei safle o ymddiriedaeth i ddwyn arian a oedd i fod ar gyfer gofal cleifion y GIG." Roedd ei gweithredoedd wedi'u cymell gan drachwant ac maent yn cynrychioli torri difrifol ar yr ymddiriedaeth a roddwyd ynddi gan ei chyflogwyr a'i chydweithwyr. Mae canlyniad y dedfrydu heddiw yn anfon neges glir bod dargyfeirio arian o'r GIG yn annerbyniol a bydd yn arwain at ganlyniadau difrifol, gan gynnwys cofnod troseddol."