Neidio i'r prif gynnwy

Tri rheolwr yn cael carchar am dwyll gwerth £822,000

Magnifying glass saying fraud

Cafodd tri rheolwr yn GIG Cymru ddedfryd o gyfanswm o 14 blynedd o garchar (am dwyll gwerth £822,000 yn erbyn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys) yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru, a letyir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Cafodd Mark Evill ddedfryd o 7 mlynedd o garchar, cafodd Robert Howells 4 blynedd o garchar a chafodd Michael Cope 3 blynedd o garchar. Mark Evill drefnodd y twyll, gyda chymorth Robert Howells a Michael Cope. Cafodd Mr Evill a Mr Howells ill dau eu cyflogi trwy asiantaeth Resourcing Group fel rheolwyr prosiect yn adran ystadau’r Bwrdd Iechyd, ac roedd Cope yn gweithio i’r Bwrdd Iechyd yn uniongyrchol fel Uwch-reolwr Ystadau. Daeth i’r amlwg yn sgil yr ymchwiliad bod Evill a Howells yn adnabod ei gilydd cyn ymuno â’r asiantaeth a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Daeth cyhuddiad dienw i law trwy linell Atal Trais a Llygredd y GIG, oedd yn cyhuddo Evill a Howells o gamddefnyddio arian y GIG trwy dderbyn “taliadau” gan gontractwyr allanol.

Roedd dod o hyd i gontractwyr allanol, cymeradwyo tendrau a dyfynbrisiau, awdurdodi talu anfonebau a gwirio bod gwaith wedi ei gwblhau ymhlith cyfrifoldebau Evill. Clustnododd y Bwrdd Iechyd £342,000 ar gyfer prosiect cyflenwad dŵr a thrydan, a mynnodd Evill y dylai contractiwr penodol o’r enw George Morgan Cyf. gael ei ddefnyddio. Cadarnhaodd yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru y cafodd George Morgan Cyf. ei sefydlu gan Evill mewn gwirionedd ac mai ef oedd yn ei redeg, a’i fwriad oedd ei dalu ei hun am y gwaith yr oedd i fod i’w gontractio ar ran y Bwrdd Iechyd. O dan gochl George Morgan Cyf., anfonebodd Evill y Bwrdd Iechyd gan ddefnyddio enwau ffug fel “Paul Hewson” a “David Evans”, gan ennill dros £822,000. Mae Paul Hewson a David Evans yn fwy adnabyddus fel Bono a The Edge o fand roc U2. Daeth i’r fei yn sgil yr ymchwiliad bod Evill wedi gwario tua £300,000 o’r arian a enillodd trwy dwyll ar nifer o dai yn Aberdâr a’r cylch, a’i fod wedi mynd ar wyliau moethus oedd yn cynnwys hedfan i Dubai ar ddosbarth busnes.

Prynodd watshis a cherbydau drud hefyd. Roedd Howells yn gwybod o’r cychwyn am gysylltiad Evill â George Morgan Cyf., ond cafodd Cope wybod am y cysylltiad yn ddiweddarach. Roedd y ddau â rhan yn y twyll am iddynt dderbyn llwgrwobrwyon gan Evill, a roddodd amlenni iddynt trwy’r blwch post oedd yn cynnwys arian parod neu sieciau. Canmolodd y Barnwr yr ymchwilydd arweiniol Cheryl Hill, Dirprwy Reolwr y Gwasanaeth Atal Twyll, a nododd fod ei hymchwiliad a’r ffordd y paratoes yr achos wedi hwyluso’r broses farnwrol.

Cynhaliwyd gwrandawiad Deddf Enillion Troseddau 2002 yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Medi 2019.  Ar ddiwedd y gwrandawiad, gwnaeth y Barnwr dri Gorchymyn Atafaelu a oedd yn datgan y canlynol:

Byddai rhaid i Mark Evill ad-dalu Gorchymyn Atafaelu o £549,688.75, a fyddai’n cael ei dalu fel digollediad i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, erbyn 19.12.19. Byddai diffyg y Gorchymyn Atafaelu yn arwain at 65 mis arall o garchar.

Byddai rhaid i Robert Howells ad-dalu Gorchymyn Atafaelu o £13,248.24, a fyddai’n cael ei dalu fel digollediad i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, erbyn 19.12.19. Byddai diffyg y Gorchymyn Atafaelu yn arwain at 7 mis arall o garchar.

Byddai rhaid i Michael Cope ad-dalu Gorchymyn Atafaelu o £559.96, a fyddai’n cael ei dalu fel digollediad i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, erbyn 19.12.19. Byddai diffyg y Gorchymyn Atafaelu yn arwain at 14 diwrnod arall o garchar.

Meddai Cheryl Hill, Dirprwy Reolwr Gweithredol Twyll yng Ngwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru:

“Mae’r canlyniad hwn yn rhoi neges glir bod y rhai sy’n twyllo’r GIG nid yn unig yn wynebu erledigaeth, ond bod yr arian a ddygwyd yn cael ei ddilyn i sicrhau ei fod yn dychwelyd i ble’r oedd i fod i fynd hefyd. Roedd Evill, Howells a Cope yn farus yn eu hymgais i ailgyfeirio arian y GIG i’w pocedi eu hunain, felly braf yw gweld bod yr arian wedi cael ei ad-dalu fel bod modd ei ddefnyddio at y dibenion gwreiddiol, sef gofal cleifion.”