Neidio i'r prif gynnwy

Myfyriwr Nyrsio yn y GIG yn cael carchar am dwyll yn erbyn y GIG a Thwyll Credydau Treth

aeroplane landing in America

Roedd myfyrwraig nyrsio a hawliodd fwy na £70,000 mewn credydau treth trwy dwyll yn byw bywyd “moethus”, roedd yn mwynhau gwyliau gyda’i gŵr, cafodd lawdriniaeth blastig a chymerodd gydfenthyciad ar gyfer eiddo rhannu amser yn America. Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Tammy Ann Gunter wedi hawlio credydau treth ar ôl honni ei bod yn berson sengl, ei bod wedi gwneud ceisiadau ffug am gyllid i fyfyrwyr a bwrsariaeth gan y GIG a’i bod wedi ffugio llythyr o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Dechreuodd yr ymchwiliad ar y cyd yn Ionawr 2015, dan arweiniad Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru, gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EM hefyd yn cymryd rhan ynddo. Cafodd Ms Gunter ei charcharu am ddwy flynedd yn y llys ar ôl pledio’n euog i un cyhuddiad o ymwneud â gweithgarwch twyllodrus â’r nod o dderbyn credydau treth, un cyhuddiad o ffugio a phedwar cyhuddiad o dwyll. Gorchmynnwyd i un cyhuddiad o dwyll aros ar ei ffeil. Cafodd ei gŵr Neil Mark Hart ddedfryd o chwe mis yn y carchar ar ôl pledio’n euog i un cyhuddiad o annog neu gynorthwyo trosedd, gan gredu y câi ei chyflawni.

Clywodd y llys fod gan Ms Gunter fywyd moethus, ei bod wedi cael llawdriniaeth blastig yn nwyrain Ewrop a’i bod hi a’i gŵr, o Central Avenue, Cefn Fforest ger y Coed Duon a briododd ym Mehefin 2009, wedi mwynhau gwyliau yn Las Vegas yn 2011 a Florida yn 2013 a’u bod wedi cymryd cydfenthyciad o $30,000 ar gyfer eiddo rhannu amser yn America. Ym mis Medi 2009, gwnaeth Gunter gais i Gyllid Myfyrwyr Cymru mewn perthynas â gradd dair blynedd mewn troseddeg a’r gyfraith ym Mhrifysgol Morgannwg fel yr oedd ar y pryd. Nododd Ms Gunter ar ei ffurflen gais ei bod yn sengl. Pan ofynnodd Cyllid Myfyrwyr Cymru am wybodaeth am ei statws priodasol, nid oedd Ms Gunter wedi darparu’r wybodaeth felly cafodd ei chais ei wrthod. Derbyniodd hi £21,396 wrth astudio ar gyfer y radd mewn troseddeg, ond clywodd y llys fod ganddi hawl i’r arian hwnnw.

 

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Peter Heywood:

“Cafodd y twyll ei gyflawni dros gyfnod maith. Roedd rhywfaint o soffistigeiddrwydd a chynllunio yn rhan ohono”.

Ym mis Mai 2018, mynychodd Gunter wrandawiad Deddf Enillion Troseddau yn Llys y Goron Merthyr. Nodwyd mai cyfanswm y budd-dal oedd £91,423.69, gyda £23,258.43 yn gronfeydd a oedd ar gael.

Yna, fel rhan o’r crynhoi, dyfarnodd y Barnwr ddigollediad o £9,545.24 i Ymddiriedolaeth GIG Felindre, gyda’r gweddill, sef £13,713, i’w dalu i’r Adran Gwaith a Phensiynau.  Dywedodd y Barnwr wrth Gunter y byddai unrhyw fethiant ganddi i dalu'r naill neu'r llall o'r symiau hynny o fewn 3 mis yn arwain at garchar am 12 mis arall, gyda swm o £68,165 ar gof a chadw er mwyn ei ailystyried yn y dyfodol.

Mae’r swm o £9,545.4 wedi ei dalu’n llawn i Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

 

Meddai Craig Greenstock, Prif Arbenigwr Atal Twyll y Bartneriaeth Cydwasanaethau:

“Mae Tammy Ann Gunter, â chymorth Neil Mark Hart, wedi bod yn benderfynol a chraff wrth geisio cael cymaint o arian â phosibl gan y cyrff cyhoeddus unigol. Rydym yn gobeithio, felly, y bydd y ddedfryd heddiw yn dangos na chaiff twyll bwriadol ei oddef ac y bydd y GIG, ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill, yn cymryd camau pendant yn erbyn y lleiafrif anonest sydd, mewn gwirionedd, yn dwyn arian y trethdalwyr er eu budd eu hunain”.