Neidio i'r prif gynnwy

Cyn Reolwr yn y GIG yn Euog o Dwyll yn dilyn Ymchwiliad gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru

show jumping

Honnodd Elise David, rheolwr blaenorol y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol, ei bod mewn gormod o boen i weithio ond cafodd ei dal ar gamera yn neidio dros ffensys mewn pedwar digwyddiad marchogaeth gwahanol. Clywodd Llys y Goron yng Nghasnewydd y talwyd oddeutu £12,000 o gyflog £49,000 Ms David, o Notais ym Mhen-y-bont ar Ogwr, tra’i bod i ffwrdd o’r gwaith. Roedd yn absennol o’r gwaith am bedwar mis o fis Mehefin 2016, a dywedodd bod ganddi anafiadau i’w chefn a “diffygion gwybyddol” ar ôl datgan ei bod wedi cwympo oddi ar ei cheffyl. Dywedodd David wrth ei chyflogwr, sef yr Uwch Dîm Rheoli, ei bod yn “cael trafferth cerdded”. Ond dywedodd yr erlynydd Nigel Fryer ei bod wedi cymryd rhan mewn pedwar digwyddiad marchogaeth ar ei cheffyl, Caereau Freeway, yn ystod y cyfnod hwnnw. Wedi ymholiadau gan yr Arbenigwr Atal Twyll Lleol i British Eventing, cadarnhawyd bod Ms David wedi bod yn cystadlu mewn sawl digwyddiad marchogaeth mewn sawl lleoliad gwahanol yn Ne Cymru a De Orllewin Lloegr ym mis Gorffennaf, mis Awst a mis Medi 2016. Yn ystod y cyfnod hwnnw, honnodd ei bod mewn gormod o boen i gyflawni ei rôl yn y labordy. Dywedodd David wrth y llys ei bod wedi cymryd cyngor ei meddyg i wneud “ymarfer corff ysgafn” fel golau gwyrdd i barhau i farchogaeth. Ar ben hynny, cwblhaodd Ms David archwiliadau meddygol o fewn dyddiau ar ôl canfod ei bod yn cystadlu mewn digwyddiadau marchogaeth.

Roedd tystion i’w harchwiliadau meddygol yn honni bod Ms David yn “ymlusgo”, ei bod yn “ddihyder wrth gerdded” a’i bod yn cerdded â ffon yn ystod yr apwyntiadau iechyd galwedigaethol, a fyddai’n penderfynu a oedd yn ffit i weithio. Condemniodd y Barnwr Daniel Williams hyn yn “act gomig”, gan ychwanegu, “Roedd hyn yn dipyn gwahanol i’r ffotograffau a welais ohonoch yn neidio’n uchel ar eich ceffyl.” Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Williams fod Ms David wedi bod yn “ofalus, yn fwriadus ac yn anonest” wrth hawlio’r tâl salwch. Cafodd ei dedfrydu i gyfnod o 12 wythnos yn y carchar, a’i gwahardd am flwyddyn. Mynnwyd bod Ms David yn cwblhau 180 awr o waith gwirfoddol hefyd, a rhaid iddi dalu £8,216.71 o iawndal i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn ogystal â £2,500 mewn costau.

 

Dywedodd Prif Archwilydd yr Arbenigwr Atal Twyll Lleol dros Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro bod Elise David, am flwyddyn gyfan:

“Yn meddwl ei bod wedi llwyddo. Ond, fel eraill o’i blaen sydd wedi ceisio, ac wedi methu, i dwyllo’r GIG, roedd yn anghywir. Am dri mis yn 2016, honnodd, drwy dwyll, fod ei chefn tost yn ei rhwystro rhag gwneud ei swydd fel uwch reolwr yn y labordy profi dyfeisiau llawfeddygol, wrth iddi ganolbwyntio ar ddatblygu ei gyrfa amatur. Flwyddyn wedi’r cyfnod o salwch, darganfu beth oedd yn ei wneud mewn gwirionedd. Arweiniodd hyn at euogfarn droseddol gyhoeddus a difrod mawr i’w gyrfa.”

 

Meddai Graham Dainty, Pennaeth Gwasanaeth Atal Twyll Cymru:

“Mae erlyniad llwyddiannus cyn uwch reolwr yn y GIG, yn dilyn archwiliad ardderchog gan Nigel Price, Arbenigwr Atal Twyll Lleol, yn dangos na fydd twyll yn erbyn y GIG yn dderbyniol. Bydd unrhyw un sy’n ceisio twyllo GIG Cymru yn mynd i berygl cael cofnod troseddol, gorfod ad-dalu’r elw a wnaed drwy’r drosedd a cholli ei swydd neu ei broffesiwn. Mae’r cyhoeddusrwydd mawr a gafodd yr achos ar y cyfryngau yn atgyfnerthu’r ffaith na ddioddefir twyll o gwbl, ac mae’n helpu i atal twyllwyr posibl”.