Neidio i'r prif gynnwy

Tynnu fferyllydd oddi ar y rhestr fferyllol yn dilyn euogfarn am dwyll gwerth £76,475

Pharmacist fraud

Cafodd y fferyllydd Michael Lloyd ei dynnu oddi ar Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar 22 Medi 2020. Cymerwyd y cam hwn yn dilyn gwrandawiad disgyblu a gynhaliwyd gan bwyllgor addasrwydd i ymarfer y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Roedd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol wedi cael gwybod bod Lloyd wedi cael ei ddedfrydu i 16 mis o garchar yn Llys y Goron Caerdydd ar 22 Hydref 2019. Roedd Lloyd wedi pledio'n euog i droseddau twyll ar ôl cael ei ddal yn cyflwyno hawliadau ffug i'r GIG.

Gwnaeth Lloyd, a oedd yn gyn gyd-gyfarwyddwr Llanharan Pharmacy Ltd, hawlio drwy dwyll ei fod wedi dosbarthu eitemau drutach na'r eitemau a ddarparwyd i'r cleifion. Hawliodd Lloyd drwy dwyll o Talbot Pharmacy, y fferyllfa yr oedd yn ei rheoli ar Heol y Gyfraith, Tonysguboriau, Rhondda Cynon Taf. Mae gan Llanharan Pharmacy Ltd bedair cangen arall nad oeddent yn gysylltiedig â throseddau Lloyd.

Ymchwiliodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru i'r achos ar ôl i bryderon gael eu codi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cadarnhaodd Gwasanaeth. Atal Twyll GIG Cymru fod Lloyd wedi hawlio drwy dwyll dros 1,500 o bresgripsiynau yn ystod cyfnod o 5 mlynedd. Cyfrifwyd mai cyfanswm y golled i'r GIG oedd £76,475.

Roedd ymchwiliadau’n dangos bod Lloyd wedi nodi, yn anghywir, ei fod wedi dosrannu meddyginiaethau ar ffurf hylif i gleifion y GIG ond, mewn gwirionedd, tabledi a dderbyniont. Ar ffurf tabledi, mae cyffuriau ar gyfer dementia megis Memantine a Donepezil yn costio cyn lleied â £3 y presgripsiwn i’r GIG. Fodd bynnag, byddai Lloyd yn hawlio am y math drutach sydd ar ffurf hylif, sydd weithiau'n costio cymaint â £300 y presgripsiwn i’r GIG.

Yn aml, byddai Lloyd yn newid y ffurflenni presgripsiwn ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan staff, gyda'r feddyginiaeth a oedd wedi'i darparu i'r cleifion o ddifrif. Dangosodd y dystiolaeth y byddai Lloyd yn croesi cofnodion dilys allan ac yna’n cofnodi eitemau drutach megis hylifau a thabledi toddadwy a chwaladwy.

Roedd y presgripsiynau wedi deillio o bresgripsiynau a ysgrifennwyd â llaw naill ai gan feddygon ysbyty yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gerllaw neu gan ymarferwyr deintyddol cymunedol. Nid oedd unrhyw broblemau gyda'r feddyginiaeth a ddarparwyd i'r cleifion ac roeddent bob amser yn cael y feddyginiaeth gywir a oedd wedi'i rhagnodi.

Cynorthwyodd Uned Cyfrifiadura Fforensig Awdurdod Atal Twyll y GIG yr ymchwiliad trwy gael delwedd fforensig o systemau cyfrifiadurol Talbot Pharmacy. Hefyd, gweithiodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru yn agos gyda’r Tîm Fferylliaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a gynorthwyodd trwy helpu i adnabod y presgripsiynau yr hawliwyd amdanynt yn anghywir.

Dadansoddodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru y presgripsiynau yn erbyn systemau cyfrifiadurol Talbot Pharmacy. Helpodd y dadansoddiad i brofi bod Lloyd wedi darparu meddyginiaeth wahanol i'r hyn a hawliwyd amdano. Hefyd cafodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru y deunyddiau pacio gan sawl claf fel tystiolaeth bod y cyffuriau rhatach wedi'u darparu.

 

Meddai Mark Weston, Ymchwilydd yng Ngwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru,

Mae ymarferwyr fferyllol yn gweithio mewn man ymddiried pwysig. Cymerodd Michael Lloyd fantais o’i swydd fel fferyllydd i dwyllo GIG Cymru ar bwrpas dros gyfnod estynedig o amser. Mae lleiafrif anonest yn gwneud niwed i enw da’r mwyafrif gonest o ymarferwyr fferyllol. Mae’r achos hwn yn dangos na ddioddefir twyll yn GIG Cymru ac y bydd sancsiynau disgyblu, sifil a throseddol addas bob amser yn cael eu gosod pan fo’n briodol.”

Dylid rhoi gwybod am unrhyw amheuaeth o dwyll yn erbyn y GIG i Linell Adrodd am Dwyll a Llygredd y GIG drwy brif wefan Awdurdod Atal Twyll y GIG neu drwy ffonio 0800 028 4060. Lle bynnag y bo’n briodol, bydd y mater yn cael ei ymchwilio iddo a’i erlyn.