Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs yn euog o ddwyn ar ôl ymchwiliad gan y Gwasanaeth Atal Twyll

NHS Wales Nurse uniform

Methodd un nyrs, y talwyd cyflog mis iddi am 17 o fisoedd ar ôl iddi orffen yn ei swydd, â datgelu’r camgymeriad i’w chyn reolwyr. Gadawodd Sarah Glenys Merry ei swydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ym mis Ionawr 2017, ond derbyniodd ei chyflog misol trwy gamgymeriad tan fis Mai 2018. Ni ddywedodd Merry, o Dylcha Wen Close, Tonyrefail, wrth unrhyw un yn y GIG am y gordaliadau, a oedd yn gyfanswm o £25,000. Cafodd y llys wybod y byddai’n gwario’r arian wrth iddi ei dderbyn, ac na wnaeth unrhyw ymdrech i roi gwybod i’w chyn gyflogwr ei bod yn dal i dderbyn cyflog. Daeth y camgymeriad i’r amlwg yn ystod adolygiad o daliadau cyflog, ac yna cyfeiriwyd yr achos at y Gwasanaeth Atal Twyll er mwyn ymchwilio iddo. Yn ei chyfweliadau, dywedodd ei bod wedi bod yn derbyn y cyflog misol a’i bod wedi bod yn ei wario yn fwriadol. Rhoddwyd dedfryd o chwe mis o garchar i Merry, a chafodd ei gwahardd am 12 mis. Mewn gwrandawiad cynharach yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd yn euog o ddwyn. Cafodd ei gorchymyn i gwblhau 200 o oriau o waith gwirfoddol ac i fynychu cwrs adsefydlu. Rhoddwyd iawndal llawn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Bydd Merry yn ad-dalu’r costau hyn drwy roi isafswm o £250 y mis. Dyfarnwyd costau erlyn o £360 hefyd.

 

Ar ôl y dyfarniad, meddai Cheryl Hill, Dirprwy Reolwr Gweithredol Twyll yn y Gwasanaeth Atal Twyll:

“Gwariodd Sarah Merry arian y GIG, nad oedd wedi ei ennill ac nad oedd yn eiddo iddi, yn fwriadol. Yn hytrach na rhoi gwybod i’w chyn gyflogwyr yn y GIG am y camgymeriad, penderfynodd gadw’r arian a’i wario arni hi ei hun – arian y dylai fod wedi cael ei wario ar wasanaethau’r GIG. Mae’r mwyafrif helaeth o staff y GIG yn onest ac yn poeni’n fawr am y GIG, ond mae Sarah Merry wedi siomi’r gwasanaeth drwy ei thrachwant. Caiff staff y GIG eu hatgoffa i gysylltu â’u cyflogwyr ar bob adeg am unrhyw ordaliadau posibl i’w cyflog, neu byddant hwythau hefyd yn wynebu’r canlyniadau os ydynt yn penderfynu cadw a gwario’r arian.”